David Cameron Llun: PA
Cafodd David Cameron ffarwel “cynnes” gan ei gydweithwyr heddiw wrth iddo gadeirio ei gyfarfod Cabinet olaf yn Downing Street.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth weinidogion ei fod yn teimlo “anrhydedd a phleser” ar ôl bod wrth y llyw am chwe’ blynedd.

Yn ystod y cyfarfod, fe dderbyniodd deyrngedau gan ei olynydd Theresa May a’r Canghellor George Osborne am y pethau yr oedd wedi ei gyflawni yn y swydd – gan gynnwys cyfreithloni priodasau hoyw a chyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ymatebodd gweinidogion gyda phedair rownd o guro ar y bwrdd – y ffordd draddodiadol o roi cymeradwyaeth yn San Steffan.

 ‘Parch’

Siaradodd Theresa May am y “cynhesrwydd a pharch” yr oedd gweinidogion yn teimlo tuag at y Prif Weinidog a thalodd deyrnged i’r modd yr oedd wedi “arwain y wlad trwy gyfnod anodd” oherwydd yr amgylchiadau economaidd anodd etifeddodd yn 2010, y cynnydd mewn bygythiadau brawychol a’r angen am “benderfyniadau anodd” ar wariant cyhoeddus.

Ychwanegodd arweinydd newydd y Ceidwadwyr bod ei rhagflaenydd wedi “rhoi’r wlad yn gyntaf”.

Cabinet posib Theresa May

Mae Theresa May bellach yn wynebu gorfod penodi Cabinet newydd mewn cyfnod byr iawn ar ôl i’r ymgyrch am arweinyddiaeth y blaid gael ei gwtogi i ychydig ddyddiau wedi i Andrea Leadsom dynnu ei henw nôl ddydd Llun.

Mae’n edrych yn annhebygol y bydd George Osborne cadw ei swydd fel Canghellor ond mae sôn y gallai olynu  Philip Hammond  fel Ysgrifennydd Tramor a  Hammond yn symud o’r swydd honno i’r Trysorlys.

Mae disgwyl y bydd Chris Grayling yn cael ei wobrwyo, o bosib fel Ysgrifennydd Cartref, am ei rôl yn cynnal ymgyrch Theresa May.

Ac mae’n debygol y bydd ymgyrchydd blaenllaw o’r ymgyrch i adael yr UE yn cael eu rhoi ar waith o oruchwylio’r trafodaethau ar gyfer ymadawiad y DU o’r UE.

Mae disgwyl i Andrea Leadsom gael cynnig swydd i gydnabod y cynnydd yn ei phroffil ers  refferendwm yr UE ond mae ’na ansicrwydd am ddyfodol Boris Johnson a Michael Gove er bod y ddau wedi lleisio eu cefnogaeth i Theresa May yn y ras am arweinyddiaeth y blaid.

Galw am etholiad cyffredinol

Bydd Thersa May yn dechrau ei swydd newydd fel Prif Weinidog ddydd Mercher ar ôl i David  Cameron ateb cwestiynau ASau yn Nhŷ’r Cyffredin am y tro olaf cyn mynd i Balas Buckingham i gynnig ei ymddiswyddiad i’r Frenhines.

Ond mae Theresa May yn wynebu galwadau i gynnal etholiad cyffredinol buan gan Lafur a Phlaid Cymru sy’n dweud ei bod hi’n “hanfodol” fod gan y DU “brif weinidog a etholwyd yn ddemocrataidd” ar adeg o ansefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol.