Andrea Leadsom Llun: PA
Mae’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, Andrea Leadsom, wedi cyhoeddi prynhawn ma ei bod yn tynnu allan o’r ras i olynu David Cameron fel Prif Weinidog.

Fe gyhoeddodd y gweinidog ynni ei bod yn gadael y ras, gan ddweud ei bod yn rhoi ei chefnogaeth lawn i Theresa May.

Dywedodd Andrea Leadsom nad oedd ganddi ddigon o gefnogaeth ymhlith ASau “i arwain Llywodraeth gref a sefydlog.”

Ychwanegodd bod y wlad angen Prif Weinidog newydd mor fuan â phosib a bod Theresa May mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y trafodaethau wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn sgil y refferendwm fis diwethaf.

Mae Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922 wedi dweud y bydd Theresa May yn cael ei chadarnhau fel arweinydd newydd y blaid unwaith y bydd ymgynghoriad wedi bod gyda bwrdd y pwyllgor. Ond nid yw wedi cadarnhau pryd fydd hynny’n digwydd.

Ffrae

Mae’n debyg nad yw Andrea Leadsom wedi bod yn hapus gyda’r driniaeth a gafodd gan y wasg yn sgil ffrae dros y penwythnos am sylwadau a wnaeth mewn cyfweliad papur newydd fod y ffaith bod ganddi blant yn ei gwneud yn fwy cymwys i fod yn Brif Weinidog. Nid oes gan Theresa May blant.

Fe ymddiheurodd y gweinidog ynni wrth Theresa May nos Sul am “unrhyw loes” a achoswyd.

Daeth y newyddion am ddatganiad Andrea Leadsom funudau’n unig ar ôl i Theresa May lansio ei hymgyrch yn Birmingham, gan gyflwyno’i hun fel yr ymgeisydd a fyddai’n dod ag “undod a phrofiad” i’r blaid.

Mewn pleidlais ymhlith Aelodau Seneddol Ceidwadol wythnos ddiwethaf, May ddaeth i’r brig gyda 199 o bleidleisiau, ac 84 i Leadsom.

Mae Michael Gove, a oedd hefyd wedi ymgeisio yn y ras am arweinyddiaeth y blaid, wedi rhoi ei gefnogaeth i’r Ysgrifennydd Cartref i ddod yn Brif Weinidog gan ddweud: “Fe ddylwn ni nawr gymryd camau mor fuan â phosib i sicrhau y gall Theresa May gymryd drosodd fel arweinydd. Mae ganddi fy nghefnogaeth lawn fel ein Prif Weinidog nesaf.”