Theresa May (Llun o'i gwefan)
Mae Theresa May wedi bod yn amlinellu ei blaenoriaethau wrth iddi ddechrau ei hymgyrch i ennyn cefnogaeth aelodau’r Blaid Geidwadol yn y ras i olynu David Cameron fel Prif Weinidog.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi rhoi addewid i roi gweithwyr cyffredin ar fyrddau rheoli cwmnïau mawr a chyfyngu ar gyflogau corfforaethol, wrth iddi amlinellu ei chynlluniau ar gyfer Prydain “sy’n gweithio i bawb – nid y breintiedig yn unig.”

Fe fydd Theresa May, a oedd wedi ymgyrchu o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, hefyd yn ceisio sicrhau’r rhai hynny a oedd eisiau gadael, y bydd yn gwneud i Brexit weithio i’r DU.

Yn y digwyddiad yn Birmingham mae disgwyl iddi hefyd bwysleisio ei phrofiad helaeth o fewn y Llywodraeth a’r Cabinet, a’i hawydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, ac adfer ymddiriedaeth pobl mewn gwleidyddiaeth.

Ymddiheuriad

Daw’r ymgyrch yn dilyn ffrae dros y penwythnos ynglŷn â sylwadau a wnaed gan ei chystadleuydd yn y ras am arweinyddiaeth y blaid, Andrea Leadsom.

Fe ymddiheurodd y gweinidog ynni wrth Theresa May nos Sul am “unrhyw loes” a achoswyd, ar ôl iddi awgrymu mewn cyfweliad papur newydd fod y ffaith bod ganddi blant yn ei gwneud yn fwy cymwys i fod yn Brif Weinidog. Nid oes gan Theresa May blant.