Angela Eagle (llun: Lauren Hurley/Gwifren PA)
Mae Angela Eagle wedi cadarnhau y bydd yn herio Jeremy Corbyn i’w ddisodli fel arweinydd y Blaid Lafur.

Fe fydd lefarydd busnes Llafur yn lansio ei her yn swyddogol ddydd Llun.

Fe wnaeth ei chyhoeddiad ar ôl i’r Dirprwy Arweinydd Tom Watson gyhoeddi y byddai’n tynnu’n ôl o drafodaethau gyda’r undebau llafur i geisio datrys yr anghydfod rhwng Jeremy Corbyn a’r ASau.

Dywedodd nad oedd “unrhyw ragolygon realistig o gyrraedd cyfaddawd” gan fod Jeremy Corbyn yn benderfynol o ddal ati, er gwaethaf pleidlais lethol o ddiffyg hyder ynddo ddechrau’r wythnos.

Wrth ymateb i gyhoeddiad Angela Eagle heddiw, cadarnhaodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn y bydd yn sefyll yn erbyn unrhyw un fydd yn ei herio am yr arweinyddiaeth.

Gala Glowyr Durham

Mae Jeremy Corbyn yn treulio’r diwrnod heddiw yn gala glowyr Durham, un o ddigwyddiadau pwysicaf y mudiad llafur ym Mhrydain, lle bu’n pwyso am undod yn erbyn y Llywodraeth.

“Mae’r undebau a’u haelodau, sy’n gwneud cymaint i gefnogi’r blaid, eisiau i’n plaid ddod at ei gilydd i wrthwynebu’r hyn mae’r Torïaid yn ei wneud,” meddai.

“Dw i’n pwyso ar fy nghydweithwyr i wrando’n ofalus iawn arnyn nhw ac yn wir i ddod at ei gilydd i wrthwynebu’r hyn mae’r Llywodraeth yma’n ei wneud i’r mwyaf bregus o fewn ein cymdeithas.”