Mae dyn 52 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn arall ar Wyl San Steffan.

Fe ddaethpwyd o hyd i ddyn 64 oed wedi’i drywanu yn Luxfield Road yn Greenwich, de-ddwyrain Llundain, tua 2.10 o’r gloch y bore, ddoe.

Mae Heddlu’r Met yn dweud eu bod wedi arestio Chris Freun, o Mottingham, a’u bod nhw wedi’i gyhuddo heddiw o lofruddio. Fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon Bromley yfory.

Mae’n heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, ac yn apelio am dystion.