Damwain hofrennydd y Clutha yng Nglasgow
Fe fydd teuluoedd y rhai fu farw ar ôl i hofrennydd yr heddlu daro i mewn i dafarn yng Nglasgow yn 2013 yn derbyn yr adroddiad terfynol heddiw.

Cafodd 10 o bobol eu lladd a nifer eu hanafu pan aeth yr hofrennydd drwy do adeilad tafarn Clutha am 10.22yh ar Dachwedd 29, 2013.

Nododd adroddiad cychwynnol y llynedd fod dwy injan yr hofrennydd yn ddiffygiol, ond ni chafodd achos y gwrthdrawiad ei nodi.

Roedd peilot yr hofrennydd a dau gwnstabl ymhlith y rhai fu farw – roedd y gweddill yn gwsmeriaid yn y dafarn.

Mae corff rheoleiddio’r AAIB yn cynnal cyfarfodydd yr wythnos hon gyda theuluoedd y rhai fu farw.

Dywedodd y cyfreithiwr David Bell o gwmni Irwin Mitchell Scotland, sy’n cynrychioli’r teuluoedd, y bu’n “ddwy flynedd anodd eithriadol”.

“Ni ellir tanbrisio effaith yr aros hwn, gan fod cynifer yn syml iawn wedi methu symud ymlaen neu ddod i delerau â’r digwyddiad o ganlyniad i’r tawelwch hir am y mater hwn.

“Gobeithio’n wir y bydd yr wythnos hon yn derfyn ar y cyfnod anodd hwn ac yn helpu pob un a gafodd ei effeithio i gael deall beth ddigwyddodd ar y noson ofnadwy honno.”

Cafodd y peilot David Traill a’r cwnstabliaid Tony Collins a Kirsty Nelis eu lladd wrth iddyn nhw deithio yn yr hofrennydd.

Y rhai fu farw y tu fewn i’r dafarn oedd John McGarrigle, Mark O’Prey, Gary Arthur, Colin Gibson, Robert Jenkins a Samuel McGhee.

Cafodd Joe Cusker ei dynnu o’r rwbel, ond fe fu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywedodd un arall o gyfreithwyr Irwin Mitchell, y cyn-beilot Jim Morris fod “nifer o gwestiynau y mae angen eu hateb o hyd”.