Mae Aelod Seneddol UKIP, Douglas Carswell wedi dweud bod sylwadau arweinydd y blaid, Nigel Farage am gleifion HIV yn “grintachlyd”.

Yn ystod y dadleuon teledu cyn yr etholiad cyffredinol, mynegodd Farage bryder bod mewnfudwyr yn dod i wledydd Prydain er mwyn derbyn triniaeth am HIV.

Cafodd y sylwadau eu beirniadu ar y pryd gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Carswell yw unig aelod seneddol UKIP wedi iddo adael y Ceidwadwyr am UKIP.

Wrth drafod Nigel Farage ar raglen Pienaar’s Politics ar Radio 5 Live, dywedodd Douglas Carswell: “Fe oedd arweinydd UKIP ers y dechrau a dw i erioed wedi codi amheuaeth am hynny.

“Ond mae’n bwysig iawn, iawn, iawn, iawn, iawn fod unrhyw blaid nad oedd wedi gwneud cystal ag y byddai wedi hoffi’n gofyn cwestiynau lletchwith iddi hi ei hun.

“Dw i’n meddwl bod peth o’r tôn wnaethon ni ddefnyddio – er enghraifft, y sylwadau am HIV – yn gwbl amhriodol ar gymaint o lefelau, nid dim ond am nad oedden nhw’n ein helpu ni’n etholiadol ond yn anghywir am eu bod nhw jyst yn anghywir.”

Ychwanegodd y byddai pobol yn “troi i ffwrdd” oddi wrth UKIP pe bai rhagor o “ddadleuon sy’n grintachlyd”.

“Oes, mae ’na ddadl bwysig iawn i’w chodi ynghylch cyfyngu hawl pobol i ddod yma a manteisio ar ein gwasanaeth iechyd ac mae angen i ni sicrhau nad yw’n wasanaeth iechyd rhyngwladol, ond mae rhywbeth hael iawn am y wlad hon yn ei hanfod a dylen ni gofio hynny bob amser, dw i’n meddwl.”

Adeg y dadleuon teledu, dywedodd Leanne Wood wrth Nigel Farage: “Mae’r math hwn o godi ofn yn beryglus; mae’n rhannu cymunedau ac yn creu stigma i bobol sy’n sâl, a dw i’n meddwl y dylech chi deimlo cywilydd.”