Mae tri o fanciau yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod beth yn union yw eu rhan yn y twyll ariannol honedig gan swyddogion Fifa.

Mae banciau HSBC, Barclays a Standard Chartered wedi cadarnhau bod ymchwiliadau ar y gweill i ddarganfod a gawson nhw eu defnyddio yn ystod y twyll honedig i drosglwyddo arian.

Mae saith o swyddogion Fifa wedi’u hamau o ddrwgweithredu dros gyfnod o ddegawdau – ac fe allai’r twyll honedig gyfateb i hyd at £65 miliwn.

Cafodd chwech o bobol eu harestio mewn gwesty yn Y Swistir yr wythnos diwethaf.