Bydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn dweud wrth gynulleidfa ym Mrwsel yr wythnos nesaf fod aelodaeth yr Alban o’r Undeb Ewropeaidd yn allweddol i swyddi a’r economi.

Mae disgwyl iddi ailadrodd ei neges y dylai pob un o wledydd Prydain orfod cytuno i adael neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm.

Bydd hi’n annerch cynulleidfa yng Nghanolfan Polisi Ewrop – ei hanerchiad cyntaf ym mhrifddinas yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl iddi ddweud: “Rwy’n credu’n gryf fod aelodaeth o Ewrop er lles yr Alban – ac rwy wedi credu hynny drwy gydol fy mywyd fel oedolyn.

“Rydym yn rhoi gwerth ar le’r Alban yn Ewrop, a’r buddiannau a ddaw yn sgil hynny yn nhermau swyddi a buddsoddiad – gyda mwy na 300,000 o swyddi’r Alban yn gysylltiedig ag allforio i’r Undeb Ewropeaidd.

“Efallai’n fwyaf elfennol oll, mae’r rhyddid i deithio, astudio a gweithio ar draws Ewrop wedi cynnig buddiannau mawr i’r Alban.

“Ar hyn o bryd, mae 171,000 o bobol o ardaloedd eraill yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw a gweithio yn yr Alban.

“Maen nhw’n cyfrannu’n helaeth at amrywiaeth ein diwylliant, llewyrch ein heconomi a chryfder ein cymdeithas.”