Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth amheus dyn y cafwyd hyd iddo wedi’i anafu mewn gwesty yn Swydd Cumbria.
Cafodd yr heddlu eu galw i westy’r Globe yn Cockermouth toc wedi 3 o’r gloch fore Sul.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty lle bu farw.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae tîm o dditectifs yn gweithio’n galed i geisio adnabod y dyn a darganfod beth yn union sydd wedi digwydd.
“Rydym wedi cau ardal yn Cockermouth tra bo’n hymchwiliad yn parhau.”
Ychwanegodd nad yw’r heddlu’n credu bod y cyhoedd mewn perygl yn sgil y digwyddiad.
Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.