Mae 30 o bobol wedi cael eu lladd gan hunan-fomiwr yn dilyn cyfres o ffrwydradau ger mosg yn ninas Maiduguri yn Nigeria.

Cafodd taflegrau eu hanelu at gartrefi pobol tra roedden nhw’n cysgu.

Roedd rhai pobol y tu allan i’r mosg yn dilyn gwasanaeth yn ystod y prynhawn yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

Roedd yr hunan-fomiwr yn gwthio whilber gan esgus bod yn weithiwr yn y farchnad pan ddigwyddodd y ffrwydradau.

Maiduguri yw’r ddinas lle cafodd Boko Haram ei sefydlu.

Mae lle i gredu bod o leiaf bump o blant wedi cael eu lladd.