(llun: PA)
Mae pobl sy’n hwyr wrth anfon eu ffurflenni treth incwm yn debygol o allu osgoi talu dirwy o £100 cyn belled â bod ganddyn nhw esgus ‘resymol’ dros hynny.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg ar ôl i bapur newydd y Daily Telegraph gael gafael ar nodyn mewnol adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) sy’n gofyn i staff ddileu’r ddirwy i bobl sy’n apelio ar ôl talu eu bil treth.

Mae’n ofynnol i bawb sy’n hunan-asesu eu treth incwm anfon eu ffurflenni erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn, ond adroddiadau fod 890,000 o bobl wedi colli’r dyddiad cau hwn eleni.

Yn ôl y Daily Telegraph, roedd y nodyn mewnol yn dweud:

“Rydyn ni wedi penderfynu ar ddull mwy cymesur o ymdrin â chwsmer sydd wedi anfon eu ffurflen yn hwyr, ac wedyn apelio yn erbyn eu cosb.

“Mae hyn yn golygu y byddwn, yn y mwyafrif llethol o achosion, yn erbyn sail y cwsmer dros apelio, ac y gallwn ddileu’r gosb.”

Wrth esbonio’r newid polisi, meddai llefarydd ar ran HMRC:

“Mae arnon ni eisiau canolbwyntio mwy a mwy o’n hadnoddau ar ymchwilio i achosion mawr o osgoi a thwyllo gyda threthi, yn hytrach na chosbi pobl gyffredin sy’n ceisio gwneud y peth iawn.”