Sepp Blatter, llywydd Fifa
Mae llywydd dadleuol y gymdeithas bêl-droed ryngwladol FIFA wedi cael ei ailethol am bedair blynedd arall.

Enillodd Sepp Blatter, 79 oed, o 133 o bleidleisiau yn yr etholiad neithiwr, o gymharu â 73 i’w unig wrthwynebydd, y Tywysog Ali Bin Al Hussein o’r Iorddonen.

Fe ddigwyddodd yr etholiad yn Zurich ynghanol helyntion ar ôl i saith o brif swyddogion Fifa gael eu harestio gan yr FBI ar gyhuddiadau’n ymwneud â llwgrwobrwyo.

Mae ailethol Blatter wedi peri siom i gymdeithasau pêl-droed ledled Ewrop, ac mae amryw wedi mynegi’r farn fod y sgandal ddiweddaraf yn golygu na fydd Blatter yn gallu gwasanaethu tymor llawn o bedair blynedd.

“Mae’r syniad y gallai Blatter ddiwygio Fifa yn amheus iawn,” meddai Greg Dyke, cadeirydd cymdeithas bêl-droed Lloegr. “Fe fyddwn i’n synnu’n fawr os bydd yn dal yn ei swydd ymhen dwy flynedd.”

Mae rhai o brif noddwyr Cwpan y Byd fel Macdonalds, Coca Cola a Visa o dan bwysau cynyddol i dynnu eu nawdd yn ôl er mwyn cynyddu’r pwysau ar Fifa.

Yn wyneb yr amheuon mai trwy lwgrwobrwyo y cafodd Rwsia a Qatar eu dewis fel lleoliadau gornestau nesaf Cwpan y Byd, cynyddu mae’r galwadau hefyd ar i wledydd Ewrop wrthod cymryd rhan ynddyn nhw.