Yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale
Dylai Sepp Blatter gamu o’i swydd fel llywydd Fifa a dylai noddwyr fygwth dod a’u cytundebau i ben gyda’r “sefydliad llwgr”, meddai’r Ysgrifennydd Diwylliant.

Dywedodd John Whittingdale wrth Aelodau Seneddol bod arestio rhai o uwch swyddogion Fifa yn Zurich ddoe wedi bod yn “sioc” ond ar yr un pryd “ddim yn syndod.”

Ychwanegodd bod y Llywodraeth yn cefnogi’r Gymdeithas Bêl-droed sydd wedi dweud bod angen diwygiadau sylweddol a phellgyrhaeddol ymhlith prif swyddogion Fifa, gan gynnwys “newid yn ei arweinyddiaeth.”

Dywedodd John Whittingdale ei fod yn croesawu’r ymchwiliadau i honiadau o dwyll a llygredd o fewn Fifa, a’i fod yn cefnogi galwad Uefa i ohirio’r bleidlais i ddewis llywydd newydd y corff bêl-droed rhyngwladol yn Zurich yfory.

Mae Visa wedi cyhoeddi y bydd yn ail-ystyried noddi Fifa oni bai bod newidiadau’n cael eu gwneud. Mae noddwyr eraill fel McDonald’s, Budweiser, Coca-Cola, Adidas, a Hyundai hefyd wedi mynegi pryderon.

Ddoe, cafodd nifer o uwch-swyddogion Fifa, gan gynnwys dau is-lywydd, eu harestio yn Zurich ar amheuaeth o dwyll, llygredd a derbyn llwgrwobrwyon yn dilyn ymchwiliad gan yr FBI.

Yn y cyfamser, mae erlynwyr yn Y Swistir wedi cychwyn ymchwiliad newydd i ymddygiad rhai o swyddogion Fifa yn ymwneud â’r broses geisiadau i gynnal Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.