Mae Eglwys Fethodistaidd Prydain wedi ymddiheuro am fethu gwarchod plant ac oedolion yn dilyn bron i 2,000 o adroddiadau o gamdriniaeth gorfforol a rhywiol yn dyddio  nôl cyn belled â’r 1950au.

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi heddiw gan yr Eglwys Fethodistaidd yn dweud eu bod yn awyddus  i fod yn agored am y gorffennol, gan ddiogelu mesurau i warchod pobl yn y dyfodol.

Ar ran yr Eglwys Fethodistaidd, dywedodd y Parch Martyn Atkins, ysgrifennydd y gynhadledd Fethodistaidd eu bod yn ymddiheuro am achosion o gamdriniaeth rywiol a chorfforol:  “ Ar ran yr Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain, rwyf eisiau mynegi ymddiheuriad am fethiant y mesurau presennol a blaenorol i ddiogelu plant, pobl ifanc  ac oedolion yn llawn rhag ymosodiadau corfforol a rhywiol wedi’u hachosi gan weinidogion  o’r Eglwys Fethodistaidd.

“Mae’r ymosodiad hwn wedi achosi gan rhai Methodistiaid ar blant, pobl ifanc ac oedolion ac fe fydd yn parhau yn destun cywilydd a thristwch i’r Eglwys.”

“Rwyf yn sicr fod y Gynhadledd Fethodistaidd eisiau gwella’r sustemau i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rhag camdriniaeth o fewn bywyd yr eglwys, ac ar dir yr eglwys, ac i adolygu’r mesurau yn gyson.”

Cafodd yr adolygiad annibynnol ei arwain gan cyn brif weithredwr Barnado’s, Jane Stacey, a gymerodd dair blynedd i’w gwblhau.

Amlygodd yr adolygiad 1,885 o achosion, oedd yn cynnwys camdriniaeth domestig, emosiynol, corfforol a rhywiol, ynghyd ag achosion o esgeulustod.  Roedd bron i chwarter o’r achosion hyn, wedi cael eu hachosi gan weinidogion yr eglwys a phregethwyr lleyg . O blith 61 o’r achosion,  roedd yna gysylltiad gyda’r heddlu ac mae chwe achos yn cael eu hymchwilio gan yr Heddlu.

Fe groesawodd cyfreithwyr ar ran y dioddefwyr yr ymddiheuriad cyhoeddus gan yr Eglwys Fethodistaidd.