Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol heddiw yn sgil “pryderon difrifol” am y gofal gafodd ei roi i gleifion mewn uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Mae’n datgelu manylion yr ymchwiliad i ward Tawel Fan, a oedd yn trin cleifion oedrannus â dementia ac yn rhan o uned seiciatrig Ablett. Cafodd ei chau ym mis Rhagfyr 2013 pan gafodd yr honiadau eu gwneud yn wreiddiol.

Cafodd wyth nyrs eu gwahardd, pedair nyrs eu symud i weithio ar ddyletswyddau eraill a bu’n rhaid i ddau feddyg weithio dan oruchwyliaeth yn sgil yr honiadau.

Heddiw fe gyhoeddwyd na fydd unrhyw un yn cael eu herlyn gan Heddlu Gogledd Cymru, yn dilyn ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Ond dywed y Bwrdd Iechyd y byddan nhw nawr yn ail-ddechrau eu prosesau disgyblu mewnol a gafodd eu gohirio o ganlyniad i ymchwiliad yr heddlu.

Diffygion difrifol

Mae adroddiad Dr Donna Ockenden wedi darganfod bod nifer o’r honiadau difrifol wedi cael eu profi, a bod “diffyg gofal proffesiynol, urddasol a thosturiol”.

Fe allai rhai o’r arferion ar y ward fod wedi mynd yn groes i hawliau dynol y cleifion, meddai’r ymchwiliad, gyda rhai o’r cleifion yn cael eu nyrsio ar y llawr a’u caethiwo heb angen.

Cafodd yr adroddiad annibynnol ei gomisiynu gan y Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror 2014 a chafodd yr adroddiad ei basio’n syth i Heddlu Gogledd Cymru.

‘Dychrynllyd’

Dywedodd Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym eisiau bod yn agored ac yn onest am beth ddigwyddodd ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Dyma pam ydym yn gwneud yr adroddiad annibynnol i ofal a thriniaeth cleifion yn y ward yn gyhoeddus cyn i’r ward gau ym mis Rhagfyr 2013.

“Yn ychwanegol at y camau brys a gymerwyd pan gafodd y pryderon eu codi i’r Bwrdd, rydym wedi blaenoriaethu ystod o waith i atal unrhyw beth fel hyn rhag digwydd eto.

“Ar ran y Bwrdd Iechyd, mae’n ddrwg iawn gennym ein bod wedi gadael ein cleifion bregus a’u teuluoedd i lawr mor ddrwg.

“Roedd triniaeth rhai cleifion ar y ward a ddisgrifir yn yr adroddiad yn ddychrynllyd, anesgusodol ac yn annerbyniol, ac rydym yn cydnabod y pryder anferth y mae’r teuluoedd yn ei deimlo.

“Nawr bod ymchwiliad yr Heddlu wedi gorffen, byddwn yn ail-ddechrau ein prosesau disgyblu mewnol ein hunain a wnaethom eu gohirio o ganlyniad i ymchwiliad yr Heddlu ar frys.”

‘Teuluoedd yn siomedig’

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Aled Roberts AC o’r  Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Mae’r adroddiad hwn yn hollol warthus. Tra yr ydym yn derbyn y penderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron a’r Heddlu i beidio erlyn unrhyw un yn yr achos yma, rwy’n siŵr fod y teuluoedd yn siomedig gyda’r penderfyniad o ystyried  natur yr honiadau.

“Dylen ni nawr ganiatáu i’r ymchwiliad disgyblu mewnol fynd rhagddo. Mae’n rhaid i bobl fod yn atebol am eu gweithredoedd.”

Ychwanegodd, “Dylid dysgu gwersi o’r cyfnod erchyll hwn er mwyn sicrhau nad yw hyn byth yn cael digwydd eto. Dwi’n croesawu’r penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i  wneud yr adroddiad yn gyhoeddus.”

‘Diffygion arswydus’

Mae’r corff annibynnol sy’n goruchwylio’r maes iechyd yng ngogledd Cymru hefyd wedi ymateb i’r adroddiad.

Fe ddywedodd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol y Gogledd, Geoff Ryall-Harvey: “Mae darllen yr adroddiad hwn yn achosi trallod ac mae’n meddyliau yn troi at y cleifion sydd wedi eu heffeithio, ynghyd a’u teuluoedd.

“Mae’r adroddiad yn dangos diffygion arswydus mewn gofal, gydag arferion cwbl annerbyniol a diffyg llwyr mewn goruchwyliaeth effeithiol. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad gan y Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael a’r diffygion hyn.

“Gydag ymchwiliad yr Heddlu wedi’i gwblhau, yr ydym yn chwilio am sicrwydd fod mesurau cadarn i adolygu gwasanaethau er mwyn sicrhau gofal diogel ac urddasol fel sy’n haeddiannol i bob defnyddiwr. Byddwn hefyd yn gofyn i’r Bwrdd Iechyd i egluro’r cynlluniau i ailgyflwyno gwasanaethau yn Ward Tawel Fan.”

Mae  llinell ffôn annibynnol wedi cael ei sefydlu ar gyfer unrhyw un sydd â phryderon am ofal iechyd meddwl ar ward Tawel Fan yn Uned Ablett Ysbyty Glan Clwyd, neu rywle arall o fewn y Bwrdd Iechyd,  sef 01745 818720.