Mynydd Tryfan yn Eryri
Bu farw dynes 70 oed ddoe ar ôl iddi syrthio ar fynydd Tryfan yn Eryri.
Cafodd y ddynes ei chanfod ar waelod clogwyni ar Fynydd Tryfan ar ôl i’w phartner ddod i lawr o’r mynydd wedi iddo yntau ddisgyn hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen bod grŵp o oedolion yn eu 30au a 70au, wedi bod yn cerdded ar Tryfan.
“Roedden nhw wedi cyrraedd godre’r Twr Gogleddol amser cinio. Nid oedd y cwpl hŷn yn hyderus i ddringo’r twr, ac fe wahanodd y grwp, gyda’r pedwar yn parhau am y copa.
“Ar ôl dod oddi ar y mynydd a chyrraedd eu ceir am 4yh, fe ganfuwyd nad oedd y cwpl hŷn yno ac fe wnaethon nhw ddisgwyl amdanyn nhw,” meddai.
Rhai oriau’n ddiweddarach fe ddaeth y dyn i lawr o’r mynydd wedi dioddef anafiadau ar ôl iddo ddisgyn hefyd. Nid oedd ei bartner gydag ef.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 7yh a daeth timau achub mynydd o hyd i gorff y ddynes ar lwybr i’r dwyrain o’r clogwyn carreg filltir. Bu farw o’i hanafiadau.
Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod am ei marwolaeth.
Mae Tryfan ymhlith y mynyddoedd mwyaf poblogaidd yn Eryri ac mae’n denu miloedd bob blwyddyn i ddringo at y ddau faen ar ei ben Adda ac Efa.