Banc Lloegr
Cafwyd cadarnhad bod twf economaidd Prydain wedi arafu ar ddechrau’r flwyddyn yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.
Roedd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi cynyddu 0.3% yn ystod tri mis cyntaf 2015, ei berfformiad gwaethaf ers diwedd 2012.
Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd y sector gwasanaethau wedi perfformio’n waeth na’r disgwyl yn ystod y tri mis cyntaf.
Cafwyd perfformiad gwael hefyd mewn masnach dramor, wrth i allforion arafu.
Roedd economegwyr wedi gobeithio y byddai rhagolygon ar ddechrau’r flwyddyn wedi gwella ond mae data o’r sector gwasanaethau yn dangos twf o 0.4% yn unig yn y chwarter cyntaf – y perfformiad gwaethaf ers diwedd 2012.
Mae Banc Lloegr wedi dweud ei fod yn disgwyl i dwf yn y chwarter cyntaf gynyddu i 0.5%.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Mae’n glir bod y seiliau ar gyfer twf cynaliadwy wedi cael eu gosod.
“Tra ei bod yn newyddion da bod yr economi yn parhau i dyfu, nid yw’r gwaith wedi’i gwblhau ac mae’n rhaid i ni barhau i weithio drwy’r cynllun a fydd yn sicrhau gwell dyfodol economaidd.”