Y Frenhines ym Mhalas Westminster y bore ma
Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams wedi dweud bod Araith y Frenhines yn arwydd fod y “blaid gas” wedi dychwelyd i San Steffan.

Cafodd cynlluniau’r llywodraeth Geidwadol eu cyhoeddi yn ystod yr araith y bore ma.

Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Mark Williams: “Heddiw fe ddadorchuddiwyd yr hen blaid Geidwadol gas; heb degwch a bwriad i gwtogi ar ein rhyddid.

“Mae’r hawliau dynol sy’n annwyl gennym, ein hawl i breifatrwydd mewn oes ar-lein a’n dyfodol fel gwlad allblyg i gyd yn y fantol unwaith eto oherwydd yr Araith Geidwadol hon gan y Frenhines.”

Er bod Bil Cymru newydd yn “gam positif” i Gymru, ychwanegodd Mark Williams ei fod yn siomedig nad oes rhagor o fanylion wedi cael eu datgelu.

“Rhaid i’r Torïaid weithredu ar Gytundeb Gŵyl Ddewi yn llawn – heb os nac oni bai.”

Cyhuddodd y Ceidwadwyr o wneud tro pedol ar eu haddewid i gyflwyno Bil Cymru o fewn 100 niwrnod o ddechrau’r cyfnod seneddol newydd.

Ychwanegodd fod rhaid i’r Ceidwadwyr “gynnal y momentwm” o ran rhoi mwy o bwerau i Gymru.

‘Anghydraddoldeb’

Mae Undeb Cenedlaethol yr Athrawon wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o hybu anghydraddoldeb yn sgil Araith y Frenhines.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Christine Blower: “Dyma Araith gan y Frenhines sy’n gwreiddio anghydraddoldeb.

“Bydd ymweliadau â banciau bwyd yn cynyddu wrth i doriadau i fudd-daliadau frathu, ni fydd gwerthu stoc cymdeithasau tai yn ateb yr argyfwng tai ac fe fydd rhagor o deuluoedd yn cael eu symud oherwydd y dreth llofftydd.”

‘Dinasyddion eilradd’

Wrth ymateb i gynnwys Araith y Frenhines, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards: “Byddwn ni’n amlwg yn mesur yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn erbyn yr hyn sy’n digwydd yng ngweddill y DU.

“Ni fyddwn yn cael ein trin fel dinasyddion eilradd.”

Prif bwyntiau Araith y Frenhines:

  • Ni fydd yn rhaid i bobol sy’n gweithio 30 awr yr wythnos ac sy’n ennill isafswm cyflog dalu’r dreth incwm ac ni fydd cynnydd mewn TAW.
  • Cadarnhad y bydd refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod y cyfnod seneddol nesaf.
  • Cyhoeddi y bydd Bil Hawliau Prydeinig yn cael ei drafod ymhellach cyn diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol.
  • Bil Cymru – datganoli pwerau newydd dros ynni, trafnidiaeth ac etholiadau llywodraeth leol.
  • Ni fydd Fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu. Mae’n cael ei ddefnyddio i amcangyfrif gwariant cyhoeddus. Ond bydd yr Alban yn derbyn llai yn sgil pwerau newydd.
  • Holyrood yw’r cynulliad datganoledig mwyaf pwerus yn y byd erbyn hyn, meddai Prif Weinidog Prydain David Cameron. Byddan nhw’n gyfrifol am godi tua 40% o’u trethi eu hunain. Bydd gan yr Alban rym dros y Credyd Cynhwysol, a budd-daliadau i ofalwyr, pobol anabl a phobol oedrannus
  • Bydd y  ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys rhoi’r gair olaf am fesurau Lloegr i’r Saeson.
  • Addewid i gynnal adolygiad o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
  • Cyhoeddi mesurau i ddiogelu’r lluoedd arfog
  • Addewid ynghylch Gwasanaeth Iechyd saith diwrnod yr wythnos
  • Deddfwriaeth i ymestyn yr Hawl i Brynu a chynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael.
  • Bydd y Llywodraeth yn bwrw mlaen gyda chynlluniau i newid y gyfraith o ran cynnal pleidleisiau dros streicio. Fe fydd Bil Undebau Llafur yn cael ei gyflwyno i sicrhau nad yw pobl sy’n gweithio’n galed yn cael eu heffeithio gan streiciau “sydd heb gefnogaeth y mwyafrif” yn ôl gweinidogion.  Bydd yn rhaid i undebau gael cefnogaeth 40% o’r gweithwyr sydd â hawl i bleidleisio mewn gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol megis iechyd, addysg, y gwasanaeth tan a thrafnidiaeth.
  • Cymunedau lleol fydd a’r gair olaf o ran ceisiadau i adeiladu ffermydd gwynt ar raddfa fawr ar y tir, o dan gynlluniau newydd sydd wedi cael eu hamlinellu yn Araith y Frenhines. Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno Bil Ynni a fydd yn golygu nad oes rhaid i’r Ysgrifennydd Ynni gymeradwyo cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt o fwy na 50 megawatt – cynlluniau a fyddai fel arfer yn cynnwys dwsinau o dyrbinau gwynt. Mae’r cynlluniau’n golygu mai awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr fydd a’r gair olaf ynglŷn â phrosiectau o’r fath.
  • Gosod cyfyngiadau ar yr amser y gall pobl ei dreulio ar fechnïaeth yr heddlu a sancsiynau posib yn erbyn pobl broffesiynol sy’n methu a gweithredu mewn achosion o gam-drin plant.