12.02 Bydd gan yr Alban rym dros y Credyd Unffurf, a budd-daliadau i ofalwyr, pobol anabl a phobol oedrannus

12.01 Ni fydd Fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu. Mae’n cael ei ddefnyddio i amcangyfrif gwariant cyhoeddus. Ond bydd yr Alban yn derbyn llai yn sgil pwerau newydd

11.58 Y ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys rhoi’r gair olaf am fesurau Lloegr i’r Saeson

11.56 Holyrood yw’r cynulliad datganoledig mwyaf pwerus yn y byd erbyn hyn, meddai Prif Weinidog Prydain David Cameron. Byddan nhw’n gyfrifol am godi tua 40% o’u trethi eu hunain

11.48 21 o fesurau wedi’u cyhoeddi

11.44 Addo adolygiad o’r Weinyddiaeth Amddiffyn

11.42 Cyhoeddi mesurau i ddiogelu’r lluoedd arfog

11.41 Cadarnhad y bydd refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod y cyfnod seneddol nesaf. Cyhoeddi y bydd Bil Hawliau Prydeinig yn cael ei drafod

11.40 Ni fydd rhaid i bobol sy’n gweithio 30 awr yr wythnos ac sy’n ennill isafswm cyflog dalu’r dreth incwm. Dim cynnydd mewn TAW.

11.40 Addewid ynghylch Gwasanaeth Iechyd saith diwrnod yr wythnos

11.40 Yr araith wedi dechrau. Y Frenhines eisoes wedi crybwyll: Ynni, mewnfudwyr, pwerau tros ysgolion gwan, ehangu cyllideb iechyd Lloegr, mwy o hawliau i ddioddefwyr troseddau, datganoli i ddinasoedd Lloegr, cyswllt rheilffordd HS2, rhagor o bwerau i Gymru a’r Alban