Y Frenhines yn cyrraedd San Steffan
Mae’r Frenhines wedi dechrau agor y tymor seneddol yn ffurfiol yn San Steffan y bore ma.

Mae disgwyl i ragor o bwerau datganoli i Gymru a’r Alban fod yn un o’r prif bynciau trafod yn ystod ei Haraith.

Hon yw’r araith gyntaf ar ran Llywodraeth Geidwadol fwyafrifol ers bron i ddau ddegawd.

Ar drothwy’r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron fod y pecyn “Un Genedl” yn “rhaglen glir ar gyfer pobol sy’n gweithio, cyfiawnder cymdeithasol a thynnu ein cenedl ynghyd”.

Ymhlith y mesurau eraill sy’n cael sylw mae cyflogaeth, ymestyn yr hawl i brynu i denantiaid cymdeithasau tai, mwy o ofal plant rhad ac am ddim a Gwasanaeth Iechyd saith diwrnod yr wythnos.

Fel rhan o’r Araith, mae’r Frenhines wedi cyhoeddi na fydd unrhyw un sy’n gweithio 30 awr neu lai am yr isafswm cyflog yn gorfod talu’r dreth incwm.

Ond fe allai’r Araith gael ei dominyddu gan y cyhoeddiad ynghylch refferendwm ar ddyfodol gwledydd Prydain fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl y daw cyhoeddiad y bydd refferendwm yn cael ei gynnal cyn 2017.

Un o’r mesurau sydd wedi cael ei hepgor y tro hwn yw diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol ac mae disgwyl i’r Llywodraeth gynnig Bil Hawliau Prydeinig, gyda’r manylion yn cael eu datgelu’n ddiweddarach yn y cyfnod seneddol presennol.

Mae lle ymhlith y mesurau ar gyfer Bil Pwerau Ymchwilio, fydd yn rhoi’r hawl i asiantaethau ymchwilio i ddefnydd pobol o wefannau cymdeithasol os ydyn nhw’n cael eu hamau o gyflawni trosedd.

Bydd grym undebau llafur yn cael ei gwtogi wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi y bydd rhaid i 50% o aelodau bleidleisio er mwyn streicio, neu 40% ar gyfer gwasanaethau allweddol.

Bydd y cap ar gyfer budd-daliadau yn gostwng o £26,000 i £23,000.

‘Uno’n cenedl’

Ychwanegodd Cameron mai ei fwriad yw sicrhau y gall pobol gwledydd Prydain “gael swydd dda, cael addysg dda, prynu eu cartref eu hunain, cael urddas wrth ymddeol a theimlo’n ddiogel yn ystod eu bywydau”.

Ar drothwy’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: “Bydd Araith y Frenhines heddiw gan Lywodraeth Un Genedl yn uno’n cenedl drwy ymhelaethu ar Gytundeb Gŵyl Ddewi.

“Ni ddylai unrhyw un danbrisio ein hymrwymiad i weld cytundeb datganoli cryfach a mwy ystyrlon a fydd yn para ar gyfer Cymru.

“Gyda mwy o atebolrwydd a mwy o benderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru, gallwn gefnogi twf economaidd a helpu mwy o bobol ar draws y wlad gyfan i elwa o adferiad economaidd.”

Rhagor o fanylion i ddilyn.