Gallai addasiad o’r firws herpes, sy’n achosi dolur annwyd,  gael ei ddefnyddio i drin canser y croen o fewn blwyddyn, yn ôl gwyddonwyr.

Mae arbrofion cychwynnol yn dangos bod y firws yn gallu lladd tiwmorau a’u hatal rhag tyfu mewn cleifion nad oes modd cynnal llawdriniaeth arnyn nhw.

Mae’r driniaeth arloesol yn galluogi’r corff i ymladd y canser.

Yn ystod arbrofion, roedd 26% o’r cyfranogwyr wedi ymateb yn dda i’r driniaeth.

O blith y 26%, roedd tiwmor un o bob 10 wedi diflannu’n gyfan gwbl.

Roedd tiwmor 16% ohonyn nhw wedi lleihau o fwy na 50%.

Cafodd yr arbrofion eu cynnal yng ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau, Canada a De Affrica gan yr Athro Kevin Harrington o Sefydliad Ymchwil Canser Llundain.

Dywedodd yr Athro Harrington fod y driniaeth yn “driniaeth wrth-ganser hollol newydd”.

Y gobaith yw y gallai’r driniaeth newydd fod ar gael o fewn blwyddyn, meddai.

Dydy’r firws ddim yn gallu datblygu yng nghyrff pobol iach, ond gall fod yn farwol i gelloedd canser.