Mae dyn ifanc Mwslimaidd yn wynebu cyfnod yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o geisio ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.
Roedd Zakariya Ashiq, 20, wedi gadael y DU ar 6 Tachwedd y llynedd ar fws o orsaf Victoria yn Llundain gan deithio i Amsterdam, Frankfurt a Bwlgaria ar ei ffordd i Wlad yr Iorddonen, clywodd achos yn yr Old Bailey.
Ond ar ôl iddo fethu a chroesi’r ffin i gyrraedd Syria, fe ddychwelodd i’r DU gan hedfan i faes awyr Heathrow, lle cafodd ei arestio ar 20 Tachwedd.
Roedd Ashiq, o Coventry, wedi cyfaddef ceisio teithio i Syria ond roedd yn honni bod yn rhaid iddo adael y DU am ei fod yn cael ei “blagio” gan MI5 i’w helpu nhw ac yn cael ei “arteithio” gan ddynion mewn mygydau a oedd wedi ei gipio a’i roi yng nghefn fan yn Coventry.
Ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor yn yr Old Bailey o ddau gyhuddiad o baratoi gweithredoedd brawychol ar neu cyn 6 Tachwedd y llynedd.
Bydd yn cael ei ddedfrydu yfory.