Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn, wedi cytuno mewn egwyddor heddiw i drosglwyddo rheolaeth Cwrs Golff Llangefni a’r Llain Ymarfer i grŵp menter cymdeithasol lleol.

Bydd swyddogion y Cyngor Sir yn cychwyn trafodaethau manwl gyda Phartneriaeth Llangefni yn fuan gyda’r bwriad o gadw’r safle ar agor tan Ebrill 2017.

Daw’r trafodaethau yn dilyn penderfyniad a wnaed ym mis Ionawr gan y Pwyllgor Gwaith i gau cwrs golff Llangefni fel rhan o doriadau o £20 miliwn i’w gyllideb dros y tair blynedd nesaf.

Daeth y penderfyniad i gau yn sgil adolygiad oedd yn dweud bod y cwrs naw twll yn gwneud colled flynyddol ac wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd.

Roedd y cwrs golff i fod i gau ym mis Ebrill.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Ieuan Williams: “Cawsom nifer o ddatganiadau o ddiddordeb parthed rheolaeth tymor byr Cwrs Golff Llangefni a’r Llain Ymarfer yn dilyn ein penderfyniad gwreiddiol i gau’r cyfleuster.

“Rhoddwyd ystyriaeth gofalus i’r rhain i gyd, ond rydym yn teimlo mai trosglwyddo cyfrifoldeb am y safle i Bartneriaeth Llangefni fyddai’r opsiwn gorau yn y tymor byr.

“Mae yna nifer o faterion o hyd sydd angen eu datrys, gan gynnwys staffio i’r dyfodol, ond mae gan ein swyddogion nawr fandad er mwyn cychwyn trafodaethau mwy manwl gyda Phartneriaeth Llangefni.”

Er y datblygiad diweddaraf, mae penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i werthu’r safle 51 acer yn 2017, a sicrhau’r gwerth gorau posib ar gyfer y safle er mwyn ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau’r Cyngor Sir, yn parhau mewn grym.