Mae miloedd yn rhagor o beiriannau talu am nwy a thrydan o flaen llaw wedi cael eu gosod yn orfodol yng nghartrefi pobl dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Ofgem.

Roedd rheoleiddiwr y diwydiant ynni wedi cyflwyno’r ffigurau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Radio 5 Live.

Dywed Ofgem ei fod yn “ymchwilio i’r rhesymau y tu ôl i’r cynnydd” gan ychwanegu na ddylai cyflenwyr ynni osod y peiriannau (PPM) o dan warant oni bai bod pob ymdrech arall wedi methu ac mae cwsmeriaid wedi mynd i ddyled.

“Mae’n ffordd o atal cwsmeriaid rhai colli eu cyflenwad trydan a nwy. Dylai cyflenwyr osod PPM os yw’n ddiogel ac yn ymarferol i’r cwsmer ei ddefnyddio,” meddai Ofgem.

Yn ôl y BBC, mae’r ffigurau’n dangos bod tua 97,000 o beiriannau talu am ynni ymlaen llaw wedi cael eu gosod mewn cartrefi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban y llynedd.

Yn 2009 roedd 36,837 o beiriannau trydan a 26,711 o beiriannau nwy wedi cael eu gosod – sef cyfanswm o fwy na 63,000.

Yn 2014 roedd y ffigwr wedi codi i 49,615 o beiriannau trydan a 47,876 o beiriannau nwy – cyfanswm o tua 97,000.

Roedd y ffigurau ar eu huchaf yn 2013 pan gafodd cyfanswm o 111,000 o PPM eu gosod, yn ôl y BBC.

Dywedodd y gymdeithas Energy Uk bod y peiriannau yn gallu helpu cwsmeriaid i reoli eu cyllid ond na ddylid eu gosod oni bai bod ymdrechion eraill wedi methu.

Ychwanegodd y dylai cwsmeriaid sy’n poeni am dalu eu biliau neu’n mynd i ddyled gysylltu â’u cyflenwyr neu ffonio’r llinell gymorth Home Heat Helpline ar 0800 33 66 99.