Un o drenau First Great Western (Mattbuck CCA 2.0)
Mae’r cwmni trenau First Great Western wedi ymddiheuro ar ôl i gwsmeriaid gwyno am gyhoeddiad ‘di-chwaeth’ ar yr uchelseinydd am farwolaeth ar y lein.
Cafodd teithwyr a oedd ar y trên 16.36 o Paddington i Plymouth eu hysbysu bod y trên wedi cael ei dal yn ôl gan ‘rywun nad oedd â’r amynedd i drafferthu byw’ mwyach.
Roedd teithwyr wedi trydar eu bod yn ffieiddio at y fath amarch yn cael ei ddangos.
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran First Great Western:
“Disgwyliwn safonau uchel gan ein timau sy’n cael eu hyfforddi i wneud cyhoeddiadau clir pan fo oedi.
“Pan mae hyn yn cynnwys marwolaeth, dylai gael ei wneud gyda sensitifrwydd a gofal.
“Ymddiheurwn am unrhyw loes a achoswyd i gwsmeriaid ddoe a gallwn gadarnhau ein bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.”