Nerys Evans
Mae un o wleidyddion blaenllaw Plaid Cymru wedi tynnu’n ôl o fod yn ymgeisydd yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Y cyn-aelod cynulliad Nerys Evans, Dirprwy Gadeirydd y Blaid, oedd ymgeisydd etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Fe fu’n cynrychioli rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru yn y Cynulliad rhwng 2007 a 2011.

Daw’r newydd o fewn deuddydd i araith allweddol gan yr arweinydd Leanne Wood, a oedd yn cael ei disgrifio fel “tanio’r ergyd gyntaf yn etholiad cyffredinol Cymru”.

Er y byddai’r sedd yn debygol o fod yn etholaeth darged i Blaid Cymru yn etholiad y Cynulliad, pedwerydd oedd y Blaid yn yr etholiad cyffredinol yma ddechrau’r mis.

Cafodd y sedd ei chadw’n gyfforddus gan y Ceidwadwr Simon Hart gyda 17,626 o bleidleisiau, dros 6,000 ar y blaen i Delyth Evans ar ran Llafur gyda 11,572. Ukip ddaeth yn drydydd gyda 4,698 o bleidleisiau, ar y blaen i Elwyn Williams dros Blaid Cymru gyda 4,201, sef 10.4% o’r bleidlais,