Arthur Taylor, 94 oed, un o gyn-filwyr Dunkirk, gyda’i ddau ŵyr o boptu iddo, yn gosod torch ar y mur coffa yn Dunkirk (llun: Gareth Fuller/Gwifren PA)
Mae rhai o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn Dunkirk i gofio’r cyrch achub enwog dri chwarter canrif yn ôl.

Yn eu plith roedd saith o’r rheini a gafodd eu cludo adref ar y llongau bach yn 1940, bob un ohonyn nhw bellach dros eu 90 oed.

Cafodd gwasanaeth ei gynnal ar y cyd rhwng cymdeithasau cyn-filwyr o Brydain, Ffrainc a Gwlad Belg, cyn i dorchau gael eu gosod ar y mur coffa lathenni o’r traeth.

Cafodd dros 300,000 o filwyr eu hachub o draeth Dunkirk rhwng 27 Mai a 4 Mehefin 1940 ar ôl iddyn nhw gael eu hamgylchynu gan luoedd yr Almaenwyr yno. Roedd y fflyd o dros 800 o gychod a gafodd eu defnyddio i’w cludo’n ôl i Loegr yn yr argyfwng yn cynnwys cychod pysgota, llongau pleser a badau achub.

Roedd llwyddiant y cyrch achub yn destun gorfoledd mawr ym Mhrydain ar y pryd, gan achosi pryder i’r prif weinidog, Winston Churchill. Yn un o’i areithiau enwocaf gerbron y senedd ar 4 Mehefin, rhybuddiodd na ddylid edrych ar Dunkirk fel unrhyw fath o fuddugoliaeth, gan ychwanegu “wars are not won by evacuations”.