Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon
Mae disgwyl y bydd tua mil o bobl yn ymgynull yng Nghaeredin heddiw i gofio’r trychineb rheilffordd gwaethaf yn hanes Prydain a ddigwyddodd union 100 mlynedd yn ôl.

Cafodd dros 200 o bobl eu lladd yn y gwrthdrawiad rhwng dwy drên yn Quintinshill, ger Gretna ar y ffin rhwng Lloegr a’r Alban yn gynnar ar fore 22 Mai 1915.

Roedd un o’r trenau’n llawn o filwyr o gyffiniau Caeredin a oedd ar eu ffordd i Lerpwl i hwylio i Gallipoli.

Fe fydd gorymdaith drwy Gaeredin i fynwent Rosebank yn y ddinas lle mae dros 100 o’r milwyr wedi eu claddu, a bydd gwasanaeth coffa yno’n dilyn.

Ymhlith y rhai a fydd yno heddiw mae prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, a fu hefyd mewn digwyddiadau tebyg yn Gretna ddoe gerllaw lleoliad y ddamwain.

“Mae effaith y trychineb yn dal i’w deimlo ymhlith cymunedau Gretna a Leith ganrif yn ddiweddarach, ac mae’r digwyddiadau coffa hyn yn ffordd addas o dalu teyrnged i’r rhai fu farw,” meddai.