Banc Lloegr yn Threadneedle Street, Llundain
Mae Banc Lloegr wrthi’n cynnal ymchwiliad cyfrinachol o’r peryglon economaidd i Brydain os bydd yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn refferendwm yn y ddwy flynedd nesaf.

Daeth hyn i’r amlwg mewn e-bost a gafodd ei anfon o’r banc at newyddiadurwr mewn camgymeriad.

Mae grŵp bach o uchel-swyddogion y banc yn cynnal yr ymchwil o dan arweiniad Syr Jon Cunliffe, y dirprwy gyfarwyddwr dros sefydlogrwydd ariannol sydd â chyfrifoldeb dros fonitro’r risg o fethiant arall yn y marchnadoedd arian.

Meddai Banc Lloegr mewn datganiad ar ôl i’r wybodaeth ddod i’r amlwg:

“Ni ddylai fod yn syndod fod y Banc yn gwneud gwaith o’r fath. Mae amryw o faterion economaidd ac ariannol sy’n codi yng nghyd-destun y trafodaethau [rhwng llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd] a’r refferendwm cenedlaethol.

“Nid yw’n ddoeth siarad am y gwaith hwn yn gyhoeddus ymlaen llaw. Ond fel gyda’r gwaith a wnaed cyn refferendwm yr Alban, fe fyddwn ni’n datgelu manylion gwaith ar yr adeg iawn.”

Uwch-gynhadledd

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi bod yn cyfarfod arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd mewn uwch-gynhadledd yn Riga, prifddinas Latvia.

Dywedodd y bydd angen llawer o ‘amynedd a dyfalbarhad’ cyn y bydd modd taro bargen, ond ei fod yn ‘hyderus’ o gael y math o newidiadau y bydd eu hangen er mwyn tawelu ofnau pobl Prydain.

Fe wnaeth awgrymu’n gryf hefyd ei fod yn ystyried cynnal y refferendwm y flwyddyn nesaf.