Bu i ddaeargryn ysgwyd ffenestri a waliau yng Nghaint yn oriau mân y bore yma.

Digwyddodd rhyw bedair milltir i’r de o Ramsgate ac roedd yn mesur 4.2 ar y raddfa Richter, yn ôl Heddlu Caint.

Chafodd neb ei anafu ac fe ddywedodd Bob Fludgate: “Cefais fy neffro ganol nos ac roedd fel pe bae lori wedi taro’r tŷ. Rydw i’n cysgu’n eitha’ trwm hefyd.”