Trwyngorn du
Mae dyn o Decsas wedi talu £225,450 i hela trwyngorn (rhinoseros) du prin yn Affrica, gyda’r arian yn mynd at warchod byd natur.

Ond mae Swyddfa Amgylchedd a Thwristiaeth Namibia wedi ei beirniadu am godi arian yn y fath fodd, wedi Corey Knowlton o Dallas saethu’r trwyngorn prin yn farw.

Cafwyd ocsiwn y llynedd i ddenu’r mwyafswm o bres ar gyfer hela’r anifail sydd mewn perygl o ddiflannu am byth. Derbyniodd swyddogion yn Namibia filoedd o lythyrau yn gwrthwynebu hawl yr Americanwr i allforio’r trwyngorn nôl i’w famwlad.

Ond yn ôl Ben Carter o Glwb Saffari Dallas, roedd y trwyngorn dan sylw yn gwneud niwed i’r trwyngyrn eraill am ei fod yn hŷn, wedi rhoi’r gorau i genhedlu ac yn bygwth eraill.

“Maen nhw’n gwarchod eu tiriogaeth yn chwyrn, ac os daw trwyngorn arall ar eu tir, yn aml wnawn nhw ladd y trwyngorn,” meddai Ben Carter.