Bydd tîm y pencampwr seiclo Olympaidd a Tour de France, Bradley Wiggins, yn rasio o gwmpas strydoedd Aberystwyth y prynhawn yma.
Mae trydedd ras cyfres Pearl Izumi yn cael ei chynnal yn y dref heddiw ac mae tîm seiclo newydd y beiciwr, Team Wiggins, yn un o’r rhai fydd yn cystadlu.
Mae Wiggins ei hun a’r Cymro Owain Doull yn rhan o’r tîm, ond dyw hi ddim yn ymddangos ar hyn o bryd a fyddan nhw yno i rasio yng nghanolbarth Cymru heddiw.
Chwe blynedd
Dyma fydd y chweched flynedd i gymal o’r Pearl Izumi gael ei chynnal yn Aberystwyth, yr unig leoliad yng Nghymru.
Fe fydd y gystadleuaeth yn dechrau gyda dringfa i fyny allt ger Rheilffordd y Graig am 2.00yp, cyn i’r brif ras o gwmpas strydoedd Heol y Wig, y Stryd Fawr, Seaview Place, y Promenâd a Stryd y Pier ddechrau am 7.30yh.
Hefyd bydd rasys plant gyda hyd at 300 o ddisgyblion ysgol yn cystadlu yn cael ei chynnal cyn y brif ras.
Pencampwr Olympaidd
Mae’r beicwyr sydd eisoes wedi cystadlu yn nwy ras gynta’r gyfres yn cynnwys y Cymro Jon Mould o dîm One Pro Cycling a’r pencampwr Olympaidd Ed Clancy o dîm JLT Condor.
Y seiclwyr o Team Wiggins sydd wedi cystadlu hyd yn hyn yw Chris Lawless, Luc Hall, Steven Burke, Iain Paton a Daniel Patten.
Ond mae enwau Syr Bradley Wiggins ac Owain Doull, yn ogystal â Mark Christian, Jon Dibben ac Andrew Tennant ar restr seiclwyr y tîm ar gyfer y gystadleuaeth.
Yn ôl y BBC, mae disgwyl y bydd Bradley Wiggins yn rasio dros y tîm yn Aberystwyth heddiw, ond mae adroddiadau eraill yn dweud ei fod yn ymarfer yn Mallorca ar hyn o bryd.