Y cyrch achub (Llun parth cyhoeddus)
Mae nifer o hen filwyr wedi teithio draw i Ffrainc ar gyfer digwyddiadau cofio Dunkirk heddiw.

Bydd y cyn-filwyr, sydd bellach yn eu 90au, yn ymweld â’r Gofeb Brydeinig ym Mynwent Filwrol Dunkirk er mwyn talu teyrnged i’r rheiny a gollodd eu bywydau yno 75 mlynedd yn ôl.

Roedd yr ymdrech i achub cannoedd o filwyr o lannau Ffrainc yn un o ddigwyddiadau mwyaf adnabyddus yr Ail Ryfel Byd.

Rhwng mis Mai a Mehefin 1940, cafodd rhwng 300,000 a 400,000 o filwyr Prydeinig, Ffrengig a Gwlad Belg eu hachub gan gychod ar y traethau wrth i fyddin yr Almaenwyr gau amdanyn nhw.

‘Llynges o gychod bach’

Cafodd nifer o’r milwyr eu hachub ar y pryd gan lwyth o gychod bach oedd wedi dod ar draws y Sianel er mwyn eu cludo nôl i Brydain.

Ond er bod yr ymgais i achub y milwyr wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan, roed yn rhaid gadael 90,000 ohonynt ar ôl gyda rhai wedi marw ac eraill wedi anafu neu gael eu dal yn garcharorion.

Ddoe fe deithiodd llynges o 50 cwch bach o Ramsgate yng Nghaint i Dunkirk i nodi’r orchest 75 mlynedd yn ôl, ac fe fydd amryw o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y dref Ffrengig dros y penwythnos.

Dydd Sadwrn fe fydd gwasanaeth arbennig ac yna gorymdaith o gerbydau milwrol drwy strydoedd y dref, a dydd Sul fe fydd plac arbennig yn cael ei ddadorchuddio.

“Gwyrth”

Un o’r hen filwyr gafodd eu hachub a fydd yn y seremonïau yw Michael Bentall, sydd yn 94 oed, ac yn wreiddiol o Brighton ond bellach yn byw yn Ontario, Canada.

“Nes i ddim dod yma oherwydd mod i’n teimlo bod rhaid i mi er mwyn fy hun, ond oherwydd y bechgyn oedd gyda fi,” meddai Michael Bentall.

“Ffawd oedd e. Dw i ddim yn gwybod sut wnes i ddianc. Roedd e’n wyrth, a heddiw dw i ddim yn gallu credu mod i yma.”