Mae pennaeth cwmni gwyliau Thomas Cook wedi ymddiheuro am farwolaeth dau o blant o ganlyniad i garbon monocsid ar eu gwyliau ar ynys Corfu.
Fe fu’r cwmni dan y lach ers i Bobby a Christi Shepherd farw yng ngwesty Louis Corcyra ar yr ynys yn 2006 oherwydd bod nam ar y bwyler.
Mae prif weithredwr y cwmni, Peter Fankhauser wedi addo rhoi ymddiheuriad llawn i’r teulu, gan ychwanegu y dylai’r cwmni fod wedi ymdrin â’r mater yn well.
Dywedodd Fankhauser wrth bapur newydd y Financial Times: “Dwi’n flin iawn am farwolaeth y ddau blentyn yma.
“Fel tad, y cyfan allaf ei wneud yw mynegi fy nhristwch mwyaf.
“Mae hi hefyd yn amlwg i mi dros y naw mlynedd diwethaf y gallai’r cwmni fod wedi ymdrin â’i berthynas â’r teulu yn well a’u trin nhw gyda mwy o barch ac rwy’n flin am hynny.”
Mae nifer sylweddol o gwsmeriaid wedi bygwth troi eu cefn ar Thomas Cook wedi iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi derbyn gwerth £3 miliwn o iawndal gan y gwesty dan sylw.
Bellach, dywed y cwmni eu bod nhw’n rhoi £1.5 miliwn o’r iawndal i Unicef.
Cafodd yr £1.5 miliwn arall ei wario ar gostau cyfreithiol.
Ond mae rhieni’r plant, Neil Shepherd a Sharon Wood wedi beirniadu’r cwmni am beidio rhoi gwybod iddyn nhw am y rhodd i Unicef.
Maen nhw wedi sefydlu cronfa er cof am eu plant, ac fe fydden nhw wedi dymuno i’r arian fynd i’r gronfa honno yn hytrach nag i Unicef.
Yn y cwest i’w marwolaethau’r wythnos diwethaf, penderfynodd rheithgor fod Bobby a Christi wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon, a bod Thomas Cook wedi bod yn esgeulus.