Fe fydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ‘mlaen gydag argymhellion Comisiwn Silk i ddatganoli holl faterion dŵr a charthffosiaeth Cymru i Gaerdydd er mwyn cael gwneud y mwyaf o “fuddion economaidd”.
Cafodd y Strategaeth Ddŵr ar gyfer yr 20 mlynedd nesa’ ei chyhoeddi gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol Carl Sargeant ddoe.
Ynddo mae’n dweud bod y Llywodraeth am anelu at ddatganoli “pob mater yn ymwneud a dŵr a charthffosiaeth” – sydd ar hyn o bryd yn cael eu rheoli o San Steffan.
Yn dilyn Adroddiad Comisiwn Silk, y prif argymhellion y mae’r Llywodraeth am weld yn cael eu gweithredu yw:
- Datganoli cyfrifoldeb tros garthffosiaeth i Gymru;
- Newid ffiniau’r ddeddf ddŵr i’r ffin genedlaethol yn hytrach nag afonydd a chwmnïau dŵr;
- Sefydlu protocol llywodraethol o ran materion sy’n effeithio ar y ddwy ochr i’r ffin;
- Diddymu pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol
Rheolaeth effeithlon
“Fy ngweledigaeth yw sicrhau bod Cymru yn parhau i gael amgylchfyd dŵr sy’n ffynnu ac yn cael ei reoli’n effeithlon er mwyn cefnogi cymunedau, busnesau a’r amgylchedd,” meddai Carl Sargeant.
“Rydym eisiau i bobol Cymru dderbyn gwerth am arian am wasanaethau dŵr ac i ddefnyddio’n adnoddau yn effeithlon, diogel a pharchus.”
Mae’r Strategaeth Ddŵr wedi derbyn cefnogaeth gan sefydliadau ledled Cymru a bydd y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ddatblygu’r argymhellion rhwng 2015 a 2018.