Cyfarwyddwr Canolfan Bingham, Syr Jeffrey Jowell QC
Mae corff ymchwil Canolfan Bingham yn cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n galw am ddiddymu Fformiwla Barnett.

Daw’r adroddiad wedi ymchwiliad i ddyfodol datganoli, sydd wedi para rhai misoedd.

Prif ffocws yr ymchwiliad yw sut y mae datganoli wedi effeithio ar gyfansoddiad y DU, a sut mae modd i’r Undeb barhau.

Ond mae’r pwyllgor yn benderfynol na ddylai barhau fel y mae, nac yn ffederal ychwaith.

Cyfarwyddwr Canolfan Bingham, Syr Jeffrey Jowell QC fu’n cadeirio’r pwyllgor sy’n cynnwys unigolion blaenllaw megis Gerald Holtham, un o brif awduron datganoli yng Nghymru.

Argymhellion

Yn ogystal â diddymu Fformiwla Barnett, mae’r adroddiad yn argymell creu swydd Ysgrifennydd Gwladol yr Undeb ar draul swyddi Ysgrifennydd Cymru, Ysgrifennydd yr Alban ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon.

Pe bai Fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu, mae’r adroddiad yn argymell creu corff annibynnol i gynghori’r Trysorlys ar faterion ariannol.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud na ddylid cynnal mwy nag un refferendwm annibyniaeth o fewn cyfnod penodol o 15 mlynedd.

O ran yr Undeb, mae’n argymell sefydlu Siartr newydd er mwyn amlinellu prif egwyddorion a gwerthoedd y DU.

Mae’r adroddiad hefyd yn mynd i’r afael â strwythur San Steffan, gan argymell ail-strwythuro Tŷ’r Arglwyddi er mwyn adlewyrchu natur newidiol perthynas gwledydd Prydain â’i gilydd.

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio am 6 o’r gloch heddiw.