Y blychau wedi'r lladrad yn Hatton Garden
Mae saith o ddynion wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â lladrad gemwaith gwerth miliynau o bunnau yn Hatton Garden.
Mae bron i ddeufis ers i griw o ladron dorri i mewn i 72 o flychau diogel yn ardal Hatton Garden yn Llundain dros benwythnos y Pasg.
Cafodd y dynion eu harestio ar ôl i’r fwy na 200 o swyddogion yr heddlu chwilio 12 o eiddo’r bore ma yn Llundain ac yng Nghaint.
Dywedodd yr heddlu fod “symiau sylweddol o eiddo uchel ei werth” hefyd wedi cael eu darganfod.
Mae Heddlu’r Met wedi wynebu beirniadaeth am y lladrad, yn enwedig ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedden nhw wedi ymateb i larwm yn y lleoliad.
Y bore yma cafodd pedwar dyn 67, 74, 58, a 48 oed eu harestio yn Enfield, Llundain. Cafodd dyn 59 mlwydd oed ei arestio yn nwyrain Llundain, tra bod dynion 76 a 50 oed wedi eu harestio yn Dartford.