Sadie Jenkins yn Llys y Goron Caerdydd Llun: Gan yr artist Elizabeth Cook/PA
Clywodd llys heddiw fod dynes sy’n cael ei chyhuddo o dorri gwddf plentyn saith oed a phlentyn 16 mis oed gyda chyllell yn seicotig ar y pryd ac yn credu fod y maffia ar ei hôl.

Mae Sadie Jenkins, 28, o Gasnewydd wedi honni mai’r lleisiau yn ei phen a ddywedodd wrthi am ymosod ar y plant.

Yn yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, clywodd y rheithgor gan ymgynghorydd seiciatryddol fforensig Dr Phillip Joseph bod Sadie Jenkins wedi cymryd cyffuriau amffetamin yn rheolaidd am gyfnod mor hir, nes ei bod yn argyhoeddedig fod y maffia yn mynd i herwgipio ac arteithio’r plant.

Yn yr oriau cyn yr ymosodiad, clywodd y rheithgor fod Sadie Jenkins yn credu ei bod hi wedi derbyn “neges gudd” drwy raglen deledu Americanaidd, ‘Crime Scene Investigation’, oedd yn ei rhybuddio am ddyn gyda thatŵ ar ei wyneb.

Sgrechian

Clywodd y llys hefyd fod y plant yn sgrechian mor uchel nes eu bod wedi deffro cwpl oedd yn cysgu yn y tŷ, a lwyddodd i ruthro i mewn a diarfogi’r ddynes 28 mlwydd oed cyn iddi achosi unrhyw niwed pellach.

Cafodd Sadie Jenkins ei chadw yn ddiweddarach o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a chafodd ei hanfon i uned ddiogel arbenigol – un yn Nhrefynwy ac yn ddiweddarach yn Stevenage.

Clywodd y llys hefyd bod Jenkins wedi bod yn dioddef o rithdybiau paranoid am hyd at ddau fis cyn y digwyddiad.

Dywedodd Dr Joseph fod clywed lleisiau a gweld pethau yn symptomau cyffredin o seicosis.

Mae Sadie Jenkins yn gwadu dau gyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae’r achos yn parhau.