Mae un o beirianwyr y Llynges Frenhinol sydd wedi bod ar ffo ers iddo ddatgelu bod diffygion dychrynllyd mewn mesurau diogelwch ar longau tanfor Trident, wedi dweud y bydd yn mynd at yr heddlu.

Roedd William McNeilly wedi rhybuddio mewn adroddiad y gallai trychineb ddigwydd yn hawdd neu y gall frawychwyr gael mynediad at y system.

Fe ddiflannodd McNeilly, sy’n wreiddiol o Newtownabbey, Sir Antrim, yr wythnos ddiwetha’.

Dywed y technegydd tanfor hefyd nad yw contractwyr sy’n gweithio ar y llongau tanfor yn Faslane yn cael eu gwirio’n drylwyr.

‘Ddim yn cuddio’

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd: “Dwi ddim yn cuddio. Mi fydda’i yn ôl ym Mhrydain o fewn y dyddiau nesaf ac mi fydda i’n mynd at yr heddlu.

“Carchar – fe fydd yn wobr braf am aberthu popeth er mwyn rhybuddio’r cyhoedd. Ond yn anffodus, dyma yw’r byd rydan ni’n byw ynddo.”

Mae ymchwiliad swyddogol wedi cael ei lansio ers iddo ddatgelu’r pryderon.

Mewn ymateb, dywedodd y Llynges bod nifer o’r honiadau yn “oddrychol ac yn rhai sydd ddim wedi’u profi, gafodd eu gwneud gan dechnegwr dibrofiad.”