Harriet Harman
Fe wnaeth aelodau’r blaid Lafur bleidleisio tros eu hoff berson yn hytrach na’r person gorau i’r swydd wrth ethol Ed Miliband yn arweinydd, yn ôl y dirprwy arweinydd Harriet Harman.

Mewn araith i drafod camau nesaf y blaid Lafur ers canlyniad gwael yn yr etholiad cyffredinol, dywedodd bod rhaid i’r arweinydd nesa’ fedru apelio at y cyhoedd yn hytrach na dim ond at ffyddloniaid y blaid.

Mae dyfodol Llafur yn benagored ers i arweinydd y blaid yn yr Alban Jim Murphy ymddiswyddo dros y penwythnos, ddiwrnod cyn i Chuka Umunna dynnu ei enw yn ôl fel ymgeisydd am arweinydd y blaid.

Roedd Jim Murphy yn beio pennaeth undeb Unite Len McCluskey am ganlyniad trychinebus y blaid yn yr Alban – lle collwyd 40 sedd i’r SNP – ac fe wnaeth yr undeb fygwth torri cysylltiad gyda Llafur os nad yw’r arweinydd nesaf yn cynrychioli llais y bobol.

Ond ers hynny, mae undeb mwyaf Prydain wedi dweud nad yw’n cefnogi unrhyw gynlluniau i dorri’r cysylltiad gyda’r Blaid Lafur.

Pleidlais

Fe fydd arweinydd nesaf y blaid Lafur yn cael ei ethol ar 12 Medi.

“Yn fwy na dim, fe fyddwn ni’n cynnwys y cyhoedd yn y penderfyniad ac yn ethol arweinydd sydd nid yn unig am arwain y blaid ond y wlad i gyd,” meddai Hariett Harman.

Ar ôl talu teyrnged i Ed Miliband a’i alw’n arweinydd “triw a llawn egwyddor”, dywedodd bod y broses o ethol arweinydd wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol.

“Fe wnaethom ni ofyn i’n hunain ‘pwy ydan ni’n ei hoffi’? Roedd yn gwestiwn anghywir. Fe ddylsem ni fod wedi gofyn ‘pwy mae’r wlad yn ei hoffi’?”

Liz Kendall, Yvette Cooper, Andy Burnham a Mary Creagh sydd wedi dangos diddordeb mewn arwain y blaid hyd yn hyn.  Mae disgwyl i Tristram Hunt hefyd ymuno yn y ras am arweinyddiaeth y blaid.