Heddlu gwrth-frawychiaeth Llundain
Mae’r ffigyrau swyddogol diweddaraf yn dangos bod unigolion wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychol bron bob diwrnod o’r flwyddyn y llynedd – sef y ffigwr mwyaf erioed.

Datgelodd Heddlu’r Met hefyd bod mwy na 700 o bobol sy’n cael eu hamau o fod yn frawychwyr wedi teithio i Syria a channoedd yn fwy wedi dychwelyd i Brydain.

Roedd tua hanner o’r bobol wnaeth deithio i Syria ag yn ôl yn cael eu hystyried yn “bryder mawr” i’r heddlu.

Y ffigyrau

Cafodd 338 o bobol eu cymryd i’r ddalfa ar amheuaeth o droseddau brawychol yn 2014-15, sydd 33% yn uwch na ffigyrau’r flwyddyn flaenorol.

Gwelwyd bod 11% yn fwy o ferched wedi cael eu harestio a 17% yn fwy o bobol yn eu harddegau.

Mae arbenigwyr wedi llunio cymhariaeth rhwng y cynnydd mewn troseddau gangiau a’r tueddiad i bobl ifanc gael eu denu at frawychiaeth.