Mae dyn 69 oed o Milton Keynes wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad Yewtree i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol.
Mae’r dyn wedi cael yn cael ei ystyried fel un o’r garfan “arall”, sydd heb gysylltiad uniongyrchol â Jimmy Savile.
Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Awst wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Ef yw’r deunawfed person i gael ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad.