Theresa May
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gyhoeddi heddiw pwy fydd yn arwain yr ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant.

Fel rhan o’r broses o sefydlu’r ymchwiliad, fe allai’r panel cyfan gael ei ddiddymu, gan benodi corff newydd i’w arwain.

Cadeirydd gwreiddiol yr ymchwiliad oedd y Farwnes Butler-Sloss, ond bu’n rhaid iddi ymddiswyddo yn dilyn amheuon ynghylch ei chysylltiadau dylanwadol o fewn y Llywodraeth, gan gynnwys ei brawd yr Arglwydd Havers, oedd yn Dwrnai Cyffredinol yn y 1980au.

Ymddiswyddodd ei holynydd, y Fonesig Fiona Woolf oherwydd bod ganddi hithau “gysylltiadau â’r sefydliad”, gan gynnwys y cyn-Ysgrifennydd Cartref Leon Brittan.

Nod yr ymchwiliad yw penderfynu a oedd cyrff cyhoeddus wedi anwybyddu neu guddio honiadau o gam-drin plant yn San Steffan yn y 1980au.

Dywedodd y cyn-Weinidog Plant Tim Loughton wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fod y sefyllfa’n “llanast” ond fod rhaid i’r ymchwiliad barhau.

“Rhaid i ni ddod i’r casgliad y gallai hyn fod wedi mynd rhagddo lawer iawn gwell, ac fe allai’r ffordd y cafodd ei sefydlu fod wedi bod lawer iawn mwy tryloyw.”