Mae arwyddion bod plaid UKIP yn ennill tir oddi ar y pleidiau mawr eraill yn yr etholiadau lleol yn Lloegr – gan awgrymu y byddan nhw’n llwyddo yn etholiadau Ewrop hefyd.

Gyda thraean o’r pleidleisiau wedi’u cyfri erbyn saith y bore, roedd UKIP wedi gwneud yn arbennig o dda yn ne-ddwyrain Lloegr.

Roedden nhw wedi cipio seddi oddi ar Lafur a’r Ceidwadwyr yn Essex gan olygu bod y Toriaid yn colli rheolaeth ar dri chyngor – gan gynnwys Basildon – a Llafur ar un.

Ond fe lwyddon nhw i ennill bron hanner y seddi yn Rotherham yn Swydd Efrog hefyd ac fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol reolaeth tros Portsmouth wrth i UKIP ennill chwech sedd.

Yr etholiadau

Pedair mil o seddi oedd ar gael yn yr etholiadau mewn 161 o gynghorau lleol yn Lloegr – yn ôl y drefn yno, dyw’r holl aelodau ddim yn cael eu hethol yr un flwyddyn.

Ond fe fydd y canlyniadau heddiw’n cael eu hystyried yn arwydd o’r hyn fydd yn digwydd yng nghanlyniadau etholiadau Ewrop trwy wledydd Prydain dros y Sul.

Does dim etholiadau lleol yng Nghymru eleni a fydd canlyniadau’r bedair sedd Ewropeaidd ddim ar gael tan fore Llun.

Llafur – canlyniadau cymysg

Mae Llafur yn disgwyl dal eu tir yn well yn Llundain ac fe lwyddon nhw i ennill rheolaeth ar ddinas Caergrawnt.

Ond mae un o’u darpar weinidogion, David Lammy, wedi cydnabod bod UKIP yn mynd â rhai o’u pleidleisiau ac, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling, dyw Llafur ddim yn gwneud cystal ag y dylai plaid sy’n anelu i gipio grym yn San Steffan.

Yn eu tro, mae Llafur yn dweud bod pleidlais y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu chwalu gan UKIP.