Mae teithiwr o wledydd Prydain wedi cael ei llofruddio ar gwch yn India.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r wraig, yn ei 20au, yn farw y tu mewn i’r cwch ar lyn Dal yn Srinagar, Kashmir, fore heddiw.  

Mae gwr o’r Iseldiroedd, a oedd yn aros ar gwch cyfagos, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i lladd.

Roedd y wraig wedi bod yn aros ar y cwch am ddau fis. Mae’r Swyddfa Dramor yn ymchwilio i’r digwyddiad.