Mae tunnelli o ddwr ymbelydrol yn cael ei symud i storfa newydd yn Japan, oherwydd pryderon fod y tanc gwreiddiol yn gollwng.

Mae TEPCO (Tokyo Electric Power Company) wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n poeni fod cymaint â 120 tunnell o ddwr eisoes wedi llwyddo i dreiddio trwy leinin mewnol y tanc, er eu bod nhw’n amheus a oes dwr ymbelydrol wedi treiddio i’r pridd. Mae TEPCO yn symud y dwr i danc arall.

Mae’r tanc yn dal y dwr a arferai oeri tanwydd atomfa Fukushima Daiichi a gafodd ei ddifrodi yn ystod trychineb niwclear Mawrth 2011.

Fe gafodd cymaint o ddwr ei ddefnyddio bryd hynny, nes bod TEPCO yn cael trafferth dod o hyd i storfeydd iddo.