Mae cyn-arweinydd UKIP wedi cyhuddo Prif Weinidog y Deyrnas Unedig o fod yn rhy amhendant yn ei phenderfyniadau ynglŷn â Brexit.
Dywedodd Nigel Farage bod Theresa May yn gweithredu yn rhy araf a bod y Deyrnas Unedig yn colli allan ar ddeliau masnach oherwydd ei phetruster.
“Beth sydd angen arnom yw arweinyddiaeth llawer fwy clir a chadarn,” meddai Nigel Farage ar Good Morning Britain, ITV.
“Mae dros 20 gwlad wedi gofyn i ni ‘gallwn wneud dêl?’ ac ar hyn o bryd dydyn ni heb ddechrau trafodaethau ffurfiol ag unrhyw un ohonyn nhw.”
Erthygl 50 a Trump
Awgrymodd y gallai May fod wedi osgoi her gyfreithiol ynglŷn â gallu’r Prif Weinidog i ddechrau gweithredu erthygl 50 heb ganiatâd y senedd, os byddai hi wedi ymateb yn fwy buan.
Mi wnaeth Nigel Farage hefyd feirniadu agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at y darpar Arlywydd Donald Trump.
Cyhuddodd aelodau’r Cabinet a staff uwch 10 Downing Street o fod yn “sarhaus” tuag at Donald Trump yn ystod yr ymgyrch etholiadol a dywedodd bod angen danfon “neges gref” o gefnogaeth yn dilyn ei apwyntiad swyddogol.