Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

09:35

Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, wedi gadael Downing Street gyda’i wraig, eu plant a’u ci.

Mae’n un o’r ychydig Dorïaid profiadol sydd dal yn Aelod Seneddol, a bu’n ymladd yn chwyrn am ei sedd yn Godalming and Ash.

Gydag amheuon y bydd Rishi Sunak yn camu lawr fel arweinydd y blaid Geidwadol yn sgil canlyniad siomedig i’w blaid, bydd rhai’n cwestiynu a fydd Jeremy Hunter yn trio am yr arweinyddiaeth eto ar ôl methu ddwywaith yn 2019 a 2022.

09:08

Ac am y darlun dros y Deyrnas Unedig, gallwch ddysgu mwy yma:

Keir Starmer a’r Blaid Lafur ar eu ffordd i Rif 10

Cadi Dafydd

Ledled y Deyrnas Unedig, mae Llafur wedi ennill mwyafrif sylweddol gan lwyddo i wrthdroi canlyniad gwael 2019

Dim ond pum sedd sydd heb gyhoeddi eu seddi erbyn hyn – tair yn yr Alban a dwy yn Lloegr.

08:57

Yma, mae Elin Wyn Owen, gohebydd golwg360, yn crynhoi’r darlun yng Nghymru wedi i ni ddeffro i fwy o wyrdd a choch ar fap gwleidyddol Cymru.

Llafur 27, Plaid Cymru 4, Dem Rhydd 1, Ceidwadwyr 0

Etholiad 2024: Y darlun yng Nghymru

Elin Wyn Owen

Dros nos, mae mwy o goch a gwyrdd wedi ymuno â map gwleidyddol Cymru wrth i’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru adennill etholaethau a chipio rhai newydd

07:45

Mae’r canlyniadau yn agosau at eu diwedd bellach – dim ond naw sedd sydd ar ôl i’w cyhoeddi. Mae pedair o’r rheiny yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon a’r gweddill yn Lloegr.

07:19

Mae’n debyg y bydd nifer seddi’r SNP yn syrthio o 48 i 8 yn dilyn yr etholiad.

Dyma oedd ymateb Rhun ap Iorwerth i ganlyniadau gwael yr SNP wrth siarad â golwg360 ar ôl y cyfri yn Ynys Môn fore heddiw, gan gymharu’r system i Gymru.

“Be sydd gennym ni mewn gwirionedd ydi dwy system etholiadol a dau gyd-destun gwleidyddol gwbl wahanol,” meddai.

“Mae’r SNP, drwy y llwyddiant mawr sy’n mynd ôl dim yn bell o ugain mlynedd erbyn hyn, a’r ffaith eu bod wedi bod yn arwain llywodraeth a’r heriau mae hyn ei olygu – ydi, dyma ydi ruddemau gwleidyddiaeth yn aml iawn, ond dwi’n hyderus iawn y bydd y SNP yn gallu ail-adeiladu.

“Mae’r neges dros annibyniaeth wrth gwrs yn parhau yn gryf iawn yno.”

06:50

Canlyniad mawr … Liz Truss yn colli mwyafrif o fwy na 26,000. Dim ond 630 oedd ynddi ond mae’n chwalfa go iawn. Ac un o’r rhai a aeth a’i phleidleisiau hi oedd ymgeisydd annibynnol o’r enw James Bagge, dyn a’i dad-cu a’i fam-gu yn Gymry Cymraeg o Ddyffryn Teifi!

06:49

Cadarnhad bod Liz Truss, oedd i weld yn hwyr i’r cyhoeddiad yn King’s Lynn & West Norfolk, wedi colli’i sedd.

Treuliodd Liz Truss ychydig dros 40 diwrnod fel Prif Weinidog yn 2022, a bu ei chyfnod yn llawn ansefydlogrwydd economaidd.

Does yna’r un cyn-Brif Weinidog wedi colli’u sedd yn y Deyrnas Unedig yn y cyfnod diweddaraf, ac yn 2019 roedd gan Liz Truss fwyafrif o tua 25,000 o bleidleisiau. 630 o bleidleisiau oedd rhyngddi hi a Terry Jermy, Aelod Seneddol newydd Llafur, yn yr etholaeth eleni.

06:40

Y BBC yn dweud eu bod nhw wedi cael “arwydd cryf” bod Liz Truss, y cyn-Brif Weiniodog, wedi colli’i sedd. Dydy’r canlyniad heb gael ei gyhoeddi eto. 

06:35

Yn ol cyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mi fydd Keir Starmer yn well Prif Weinidog nag yr oedd wrth arwain yr wrthblaid. Mi ddywedodd wrth y BBC y byddai ei gryfderau yn “dod i’r amlwg” yn y swydd.

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew R T Davies, wedi dweud bod angen iddyn nhw ymddiheuro am y pum mlynedd diwetha’.

06:30

Ar ôl noson lwyddiannus dros ben i Blaid Cymru yn Ynys Môn, siaradais efo Rhun ap Iorwerth am lwyddiant Llinos Medi yn cipio’r sedd i’r blaid am y tro cyntaf ers etholiad 1997 o dan Ieuan Wyn Jones:

“Mi oedd o’n deimlad bendigedig i weld hi’n ennill, a do mi wnes i ryw fath o wenu i fi fy hun yn meddwl ar un adeg o’n i yn mynd i fod yn sefyll yn y fan honno,” meddai.

“Fel arweinydd Plaid a ffrind a rhan o’r tîm iddi hi yma yn Ynys Môn oedd gen i ddim byd ond balchder dros Linos a dw i’n dymuno yn dda iddi hi.”

I rai ohonoch chi sydd ond wedi codi, dyma oedd y canlyniadau yn llawn:

Plaid Cymru (Llinos Medi) – 10,590

Ceidwadwyr (Virginia Crosbie) – 9,953

Llafur (Ieuan Môn Williams) – 7,619

Reform UK (Emmett Jenner) – 3,223

Gwyrddion (Martin Schwaller) – 604

Lib Dems (Leena Farhat) – 439

Plaid Cymru: “Canlyniad arbennig ond gwaith adeiladu at etholiad nesaf y Senedd”

Rhys Owen

Dyna eiriau Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi iddyn nhw ennill pedair sedd, gan gynnwys yn Ynys Môn