Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

13:28

Vaughan Gething yn sgwrsio gyda Keir Starmer,

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi llongyfarch Keir Starmer ar ddod yn Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.

Roedd y ddau wedi bod yn pwysleisio y byddai cael dwy lywodraeth Lafur yn San Steffan a Bae Caerdydd yn golygu y bydden nhw’n gallu cydweithio ar un weledigaeth, ac mae Vaughan Gething wedi dweud bod hyn yn “ddechrau cyfnod newydd o bartneriaeth”.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu i hybu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach,” medd Vaughan Gething.

“Mae mandad Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn sail gadarn ar gyfer y newid hwnnw. Gyda dwy lywodraeth yn cydweithio, gallwn helpu mwy o bobl i gynllunio dyfodol sicr ac uchelgeisiol yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at sefydlu partneriaeth newydd gyda Llywodraeth newydd y DU cyn gynted â phosibl, gyda pharch at ein gilydd ac ymdeimlad o bwrpas cyffredin.

“Gyda ffocws ar dwf economaidd a dull newydd sy’n cefnogi potensial twf gwyrdd Cymru, gallwn ddatgloi cyfleoedd mwy uchelgeisiol ledled Cymru.

“Mae ymrwymiadau newydd i atgyweirio ac ymestyn datganoli, ar ôl cyfnod parhaus o ymosodiadau, yn cynnig cyfnod newydd i’r Senedd a Llywodraeth Cymru.”

Er ei bod hi wedi bod yn noson lwyddiannus i Lafur yng Nghymru ar un olwg, yn cipio nifer o seddi gan y Ceidwadwyr, roedd cyfran y bleidlais yn is nag yn 2019 – lawr i 37% o 40.9% yn 2019. Dydy 37% ddim yn gyfran fawr o ystyried eu bod nhw wedi cael llwyddiant cystal yn ennill seddi, ac mae’n arwydd o batrwm noson pan gafodd y pleidiau bychain gyfran fawr o’r bleidlais rhyngddyn nhw dros y Deyrnas Unedig.

12:59

Mae Keir Starmer wedi dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi iddo fod yn cyfarfod y Brenin.

Wrth iddo gyrraedd ei gartref newydd yn Rhif 10 gyda’i wraig, roedd torf o gefnogwyr a chyfeillion yno i’w gyfarch, rhai yn chwifio baneri Draig Goch bychain, gan gynnwys Carolyn Harris, cyn Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe a ffrind iddo yn Nhŷ’r Cyffredin.

Keir Starmer yw seithfed Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, a’r 58ain gŵr i wneu y swydd.

Dechreuodd ei araith yn Downing Street wrth ddiolch i Rishi Sunak, gan gydnabod ei waith caled a’i ymroddiad.

“Ond nawr mae’r wlad wedi pleidleisio’n bendant dros newid, dros adferiad cenedlaethol.

“Rydyn ni angen symud ymlaen gyda’n gilydd.

“Dim ond gweithredoedd, nid geiriau, all wella’r clwyf, y diffyg ffydd.

“Fedran ni ddechrau drwy gydnabod bod gwasanaeth cyhoeddus yn fraint, ac y dylai eich llywodraeth drin bob un person yn y wlad gyda pharch.”

Wrth siarad â phobol wnaeth ddim pleidleisio dros Lafur ddoe, dywed ei fod am eu gwasanaethu a’i fod am roi’r wlad cyn y blaid.

“Gall gwleidyddiaeth gael ei ddefnyddio er da.”

Dywed bod gwleidyddion wedi troi llygad ddall wrth i bobol wynebu ansicrwydd, ac na fydd hynny’n digwydd y tro hyn.

“Dyw’r gwaith o newid gwlad ddim fel troi swits, mae’r byd yn lle mwy anwadal, ond na amheuwch, mae’r gwaith o newid y wlad yn dechrau’n syth. Na amheuwch, byddwn yn ailadeiladu Prydain a chreu cyfoeth ym mhob cymuned, rhoi’r Gwasanaeth Iechyd yn ôl ar ei draed, diogelu’r ffiniau, creu strydoedd mwy diogel, sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch yn y gwaith, sicrhau’r cyfle i greu ynni Prydeinig glân fydd yn gostwng eich biliau. A gam wrth gam byddan yn ailadeiladu seilwaith cyfleon drwy gael ysgolion a cholegau o ansawdd byd eang, cartrefi fforddiadwy sy’n gartrefi i weithwyr, sicrwydd y gall teuluoedd dosbarth gweithiol, fel fy un i, adeiladu’u bywyd o’u cwmpas.

“Pe bawn i’n gofyn i chi nawr, a ydych chi’n credu y bydd Prydain yn well ar gyfer eich plant, dw i’n gwybod y byddai gormod ohonoch yn dweud ’na’. Felly bydd fy llywodraeth yn cwffio bob dydd nes eich bod chi’n ateb ‘ie’ eto.

“Mae angen gwneud ein gwaith ar frys, ac rydyn ni’n dechrau heddiw.”

11:12

Mae undeb ffermio NFU Cymru wedi llongyfarch Syr Keir Starmer ar ei fuddugoliaeth ar ddechrau “cyfnod diffiniol arall” i amaethyddiaeth Cymru.

“Fel y gwyddom, ffermio yw un o flociau adeiladu economi Cymru wrth gwrs, gan ategu sector bwyd a diod gwerth £8.1bn sydd yn ei dro yn cyflogi 233,500 o bobol,” meddai Aled Jones, llywydd yr undeb.

“Rwy’n hyderus, gyda chefnogaeth ein gwleidyddion wrth sicrhau’r amgylchedd polisi cywir, y gall NFU Cymru a’i aelodau fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau a gwireddu potensial y sector.

“Hoffwn ddiolch i’r ASau hynny a roddodd eu gorau i’r etholiad hwn ac sydd wedi ymgysylltu ag NFU Cymru dros y blynyddoedd, rwy’n ddiolchgar iawn am eu cymorth a’u cefnogaeth.”

11:07

Nid Prydain yw’r unig le sydd gan etholiad yr wythnos hon.

Bydd ail rownd etholiadol seneddol Ffrainc yn cael eu cynnal ddydd Sul, Gorffennaf 7.

Elin Roberts, dadansoddwraig geowleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus sy’n byw ym Mharis, sydd wedi bod yn cymharu’r sefyllfa ar ddwy ochr y Sianel.

Mae’r ddau etholiad yma yn cynrychioli pethau gwahanol iawn i’r ddwy wlad.

Yn y Deyrnas Unedig, rydym wedi gweld etholiad er mwyn cael gwared â’r 14 mlynedd o lywodraeth y Ceidwadwyr, cyfnod pan welwyd cynnydd mewn tlodi, gostyngiad yn safonau byw, Brexit, sgandalau COVID, ac ati. Mae buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur yn brawf cryf o hyn yn ogystal â’r ffaith nad oes yr un aelod seneddol o’r Blaid Geidwadwyr na’r Blaid Reform wedi eu hethol yng Nghymru.

Tra bod y Deyrnas Unedig wedi troi tuag at y chwith, mae Ffrainc yn troi tuag at y dde eithafol. Fe wnaeth blaid asgell dde, Rassemblement National ennill 33.1% o’r bleidlais yn rownd gyntaf yr etholiadau seneddol, gyda’r grŵp asgell chwith, Nouveau Front populaire, yn ennill 28% o’r bleidlais a phlaid Macron, Ensemble, yn ennill 20%. Yn yr ail rownd, rydym yn disgwyl y bydd y Rassemblement National yn dod yn fuddugol, ond y cwestiwn yw a fydden nhw’n gallu ffurfio llywodraeth.

Dau etholiad gwahanol ar ddwy ochr y Sianel: Beth fydd hyn yn ei olygu i’r berthynas â Ffrainc?

Elin Roberts

“Mae’r ddau etholiad yma yn cynrychioli pethau gwahanol iawn i’r ddwy wlad”

10:53

“Dw i’n clywed eich dicter”, meddai Rishi Sunak wrth ddweud ei fod yn camu’n ôl fel arweinydd y Blaid Geidwadol…

Mi ddechreuodd ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr yn y glaw tu allan i Rif 10 chwe wythnos yn ôl, ac mae 14 mlynedd y Torïaid yn dod i ben mewn ffordd ddigon tebyg.

Mewn glaw man, mae Rishi Sunak wedi ffarwelio â Downing Street cyn iddo fynd i gynnig ei ymddiswyddiad i’r Brenin.

Yn ogystal â ymddiheuro i’r wlad, mae wedi cadarnhau ei fod yn camu lawr o’r rôl fel arweinydd y Blaid Geidwadol. Ni fydd yn gadael tan y bydd rhywun i’w olynu.

“I’r wlad, hoffwn ddweud yn gyntaf fy mod i’n sori. Dw i wedi rhoi popeth i’r swydd,” meddai.

“Ond rydych chi wedi rhoi arwydd clir, rhaid i lywodraeth y Deyrnas Unedig newid, a’ch barn chi yw’r unig un sy’n bwysig.

“Dw i wedi clywed eich dicted, eich siom, a dw i’n cymryd cyfrifoldeb am y golled hon.”

Ymddiheurodd hefyd i’w gydweithwyr, a diolch am waith caled cyn-Aelodau Seneddol.

“Pan sefais yma am y tro cyntaf fel eich Prif Weinidog, dywedais mai fy mhrif swydd oedd dod â sefydlogrwydd i’r economi… mae chwyddiant yn ôl ar y targed, morgeisi yn gostwng ac mae’r economi yn tyfu eto.”

Dymudodd y gorau i Keir Starmer fel Prif Weinidog hefyd.

“Yn y swydd hon, ei lwyddiannau ef fydd llwyddiannau’r wlad, a dw i’n dymuno’n dda iddo ef a’i deulu,” meddai.

“Mae heddiw’n ddiwrnod anodd ar ddiwedd nifer o ddiwrnodau anodd, ond dw i’n gadael y swydd yn freintiedig o fod wedi bod yn Brif Weinidog i chi.”

10:47

Mae Rishi Sunak wedi cadarnhau y bydd yn camu i lawr fel arweinydd y blaid Geidwadol.

“Dw i wedi clywed eich dicter a siom ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb am y golled hon,” meddai o flaen Rhif 10 Downing Street.

Bydd yn gwneud ei ffordd at Frenin Lloegr i ymddiswyddo’n ffurfiol yn fuan.

10:18

John Swinney

Mae John Swinney, Arweinydd yr SNP, wedi ymddiheuro am y noson siomedig i’w blaid.

Naw o seddi mae’r blaid wedi’u hennill hyd yn hyn, gyda dwy etholaeth yn yr Alban dal ar ôl i gyhoeddi’u canlyniadau. Ers 2019, maen nhw wedi colli 39 o seddi ac ennill un.

“Mae’n ddrwg iawn gen i golli gymaint o Aelodau Seneddol ac ymgeiswyr galluog oedd yn aflwyddiannus, a chymaint o staff sy’n gweithio cystal i gefnogi’n gwleidyddion na fydd yn gallu gwasanaethu yn y ffordd maen nhw wedi’i wneud nes hyn,” meddai John Swinney.

“Mae’r noson galed hon yn ychwanegu at gyfnod anodd i’r SNP, cyfnod anodd sydd wedi bod mynd ymlaen ers peth amser a chyfnod anodd sydd wedi arwain ata i’n dod yn arweinydd wyth wythnos yn ôl.

“Fe wnes i ddod i’r gwaith i ddatrys y cyfnod hwn, a dw i wedi ymrwymo i wneud hynny achos mae angen gwella’r SNP a gwella’i pherthynas â phobol yr Alban.

“Dw i eisiau gwneud hi’n glir fy mod i’n cymryd cyfrifoldeb llwyr dros ymgyrch yr SNP a’r canlyniad.”

Dywed hefyd ei fod yn awyddus i ddysgu o’r hyn ddigwyddodd neithiwr.

“Rhaid i ni weithio’n galed i ymgysylltu â’r cyhoedd i adeiladu ffydd a hyder.”

Roedd hi’n noson anodd i’r Ceidwadwyr yn yr Alban hefyd, ac mae’r arweinydd, Douglas Ross, wedi methu â dod yn Aelod Seneddol.

09:35

Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, wedi gadael Downing Street gyda’i wraig, eu plant a’u ci.

Mae’n un o’r ychydig Dorïaid profiadol sydd dal yn Aelod Seneddol, a bu’n ymladd yn chwyrn am ei sedd yn Godalming and Ash.

Gydag amheuon y bydd Rishi Sunak yn camu lawr fel arweinydd y blaid Geidwadol yn sgil canlyniad siomedig i’w blaid, bydd rhai’n cwestiynu a fydd Jeremy Hunter yn trio am yr arweinyddiaeth eto ar ôl methu ddwywaith yn 2019 a 2022.

09:08

Ac am y darlun dros y Deyrnas Unedig, gallwch ddysgu mwy yma:

Keir Starmer a’r Blaid Lafur ar eu ffordd i Rif 10

Cadi Dafydd

Ledled y Deyrnas Unedig, mae Llafur wedi ennill mwyafrif sylweddol gan lwyddo i wrthdroi canlyniad gwael 2019

Dim ond pum sedd sydd heb gyhoeddi eu seddi erbyn hyn – tair yn yr Alban a dwy yn Lloegr.

08:57

Yma, mae Elin Wyn Owen, gohebydd golwg360, yn crynhoi’r darlun yng Nghymru wedi i ni ddeffro i fwy o wyrdd a choch ar fap gwleidyddol Cymru.

Llafur 27, Plaid Cymru 4, Dem Rhydd 1, Ceidwadwyr 0

Etholiad 2024: Y darlun yng Nghymru

Elin Wyn Owen

Dros nos, mae mwy o goch a gwyrdd wedi ymuno â map gwleidyddol Cymru wrth i’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru adennill etholaethau a chipio rhai newydd